dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Ynghylch Gwefan Wrecsam Ifanc

Ydych chi rhwng 11 a 25 oed?

Ydych chi’n byw yn Sir Wrecsam?

Os mai “ydw” yw’r ateb yna dyluniwyd y wefan hon ar eich cyfer chi, i roi gwell gwybodaeth i chi am y gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael i chi yn Wrecsam.

Diben y wefan yw sicrhau bod holl bobl ifanc sy’n byw yn Wrecsam yn gwybod am eu “hawliau” ac yn eu cael. Diben y wefan hon yw dweud wrthych ymhle gallwch gael y gefnogaeth, gwasanaethau a gweithgareddau y mae gennych hawl i’w derbyn.

Mae hefyd yn cynnwys cronfa ddata TRACK sy’n llawn o bethau y gallwch wneud a llefydd i fynd. Rhoddwyd hyn at ei gilydd fel rhan o ddatblygu “Llwybrau Dysgu 14-19”.

Partneriaeth Pobl Ifanc Wrecsam sydd wedi datblygu’r wefan hon efo llawer o help gan bobl ifanc Wrecsam, yn gweithio efo INFO, sy’n rhan o Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam ac arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cydnabyddiaeth

Hoffem gydnabod cefnogaeth gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid Sir Benfro a Chasnewydd sydd wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio rhai o’u cynlluniau.