Polisi Preifatrwydd
Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn derbyn pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth i ni am eich hun, bod gennych ffydd y byddwn yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol.
Rydym yn credu na ddylid defnyddio’r wybodaeth hon heblaw i helpu i ni roi gwell gwasanaeth i chi. Dyna pam fod gennym bolisi i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Wnawn ni ddim rhoi unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch a gafwyd drwy’r we i gwmnïau nac unigolion eraill oni bai fod y gyfraith yn gofyn hynny.
Fe all ein gwefannau ddarparu cysylltiadau â gwefannau pobl eraill. Am nad ydym yn rheoli’r gwefannau hynny, rydym yn eich annog i adolygu eu polisïau preifatrwydd.
Bydd gwybodaeth a gasglwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael ei chadw a’i phrosesu mewn cronfeydd data sydd ym mherchenogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn unig.
Defnyddio cwcis
Cwci yw neges fach a roddwyd i’ch porwr gwe gan ein gwe-weinydd. Mae’r porwr yn cadw’r neges mewn ffeil testun, ac mae’r neges yn cael ei anfon yn ôl i’r gweinydd bob tro y bydd y porwr yn gofyn am dudalen o’r gweinydd.
Byddwn yn defnyddio cwcis i roi gwybodaeth gyfanredol anhysbys i ni am sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan a helpu i ni wybod beth sy’n ddiddorol a defnyddiol iddynt ar ein gwefan. Ni fyddwn yn cadw gwybodaeth bersonol fel cyfeiriadau e-bost na manylion eraill mewn cwci.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr y we wedi cael eu gosod i dderbyn cwcis. Os nad ydych eisiau cwcis, efallai y gallwch newid gosodiadau eich porwr gwe i wrthod holl gwcis neu ddweud wrthych bob tro y caiff cwci ei anfon i’ch cyfrifiadur, a rhoi dewis i chi ei dderbyn neu beidio.
Sut mae Cwcis yn Gweithio
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar Gwcis cofiwch alw heibio Webwise y BBC.
Addasiadau
all Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam newid y telerau hyn ar unrhyw adeg trwy ddiweddaru’n neges hwn. Dylech ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i adolygu’r Telerau cyfredol ar y pryd oherwydd eu bod yn gyfrwymol arnoch chi. Fe all darpariaethau arbennig y Telerau hyn gael eu disodli gan rybuddion cyfreithiol neu delerau a ddynodwyd yn benodol ar dudalennau arbennig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.