dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Mae Angen Llais Arnoch Chi, Mae Angen Enw Arnom Ni

Mae Cyngor Wrecsam ac AVOW (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol) yn Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc i lansio fforwm i gael gwybod a chlywed barn pobl ifanc.

Rydym eisiau tua chwe deg o bobl ifanc yn y grŵp hwn fydd yn cynrychioli pobl ifanc yn Wrecsam, yn cael clywed eich lleisiau a bod yn rhan o'ch cymuned. Bydd hyn yn sicrhau bod Wrecsam yn cyflawni Erthygl 12 UNCRC (Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn).

Pobl ifanc fydd yn penderfynu pynciau'r cyfarfodydd a gallant fod yn unrhyw beth o gwbl sy'n effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam. Gallai rhai ohonynt gynnwys cludiant, ysgolion neu'r amgylchedd.

Cyn dechrau arni, y peth cyntaf sydd arnom ei angen yw enw ar y grŵp hwn. Dros dro, mae'n cael ei alw'n Senedd yr Ifanc ac mae gennym awgrymiadau eraill ond rydym yn dal i chwilio am enwau.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau yna rhowch y manylion isod a bydd eich enw'n cael ei roi mewn raffl i ennill tocynnau sinema am ddim i'r Odeon, bowlio deg am ddim a phrydau am ddim yn Nando's.

Yna bydd pleidlais ar yr enwau a awgrymwyd.

Neu ydych chi'n hoffi:




OS YDYCH EISIAU CYMRYD RHAN NEU EISIAU CAEL MWY O WYBODAETH YNA COFIWCH ADAEL EICH MANYLION UCHOD

Hidlydd Sbam

INFO Shop
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB

01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk