Croeso i clicarlein! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Beth yw CLIC?

  • Sianel ar-lein a chylchgrawn chwarterol sy’n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i bobl ifanc 11-i-25 oed yng Nghymru.
  • Gwybodaeth am ystod eang o bynciau a materion a gwybodaeth am ble i gael cymorth yn eich ardal leol.
  • Mae’r sianel ar-lein yn caniatâu i bobl ifanc a sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw i lwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithgareddau.
  • Bydd gwefannau sirol lleol yn cael eu creu a'u datblygu i fod yn rhan o sianel ‘Cymru Gyfan’ i rannu gwybodaeth, newyddion a phrosiectau.
  • Sefydlir grwpiau golygyddol wedi’i arwain gan ieuenctid yn genedlaethol ac yn lleol i bobl ifanc ddatblygu cynnwys ar gyfer y sianel.

Ar gyfer pwy mae CLIC?

Mae 2.9 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru. Mae plant a phobl ifanc yn 30% o’r boblogaeth honno. Mae CLIC yn cynnig mynediad at gyngor a gwybodaeth i bawb sydd rhwng 11-25 oed.

Beth sy'n wych am CLIC?

  • Mae’r cynnwys yn cael ei greu, ei ysgrifennu a’i ddiweddaru gennych chi a’r sefydliadau sy’n cefnogi eich gweithgareddau.
  • Mae’n caniatáu i ti ddweud beth ti’n dymuno ac yn rhoi cyfle i ti gyfnewid syniadau a phrofiadau.
  • Mae’n creu, datblygu a rhannu gwybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
  • Mae rhannu amlgyfryngau yn dangos dy syniadau a dy sgiliau creadigol h.y. dylunio, fideo a ffotograffiaeth.
  • Mae’n hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant drwy grwpiau golygyddol a arweinir gan ieuenctid ar lefel leol a chenedlaethol
  • Mae’n gweithio’n agos gyda rhwydweithiau gwybodaeth i ieuenctid ar draws Cymru i rannu adnoddau gyda chi
  • Llwyfan i ti a’r sefydliadau i roi cyhoeddusrwydd i’ch cynnyrch a’ch cyflawniadau chi
  • Mae'n tynnu sylw at syniadau ac arferion da i bawb ddysgu oddi wrthynt
  • Gall ddarganfod am brosiectau a sut i gymryd rhan o bob rhan o Gymru
Cyflwyno Newyddion Cyflwyno Digwyddiadau Cofrestru

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.