Zoom: Gwyl Ffilm Pobl Ifanc
English version
Bydd gŵyl ffilm fwyaf i bobl ifanc yn digwydd o ddydd Llun 26 – dydd Gwener 30 Mawrth 2012.
Nawr yn y chweched flwyddyn mae Gŵyl Ffilm Zoom yn adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd cynt, sydd wedi cyrraedd dros 10,000 o bobl ifanc dros Gymru.
Bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal mewn pum lleoliad dros gymoedd De Cymru, ac mae'n gymysgedd cyffrous o sgrinio ffilmiau nodwedd a byr sydd wedi'u creu yn lleol, genedlaethol a rhyngwladol, dosbarthiadau meistr cyffrous, gweithdai anhygoel a pharti cloi diwedd gŵyl.
"Rydym yn disgwyl bydd 2012 yn fwy ac yn well nag erioed gyda rhaglen amrywiol o weithdai, gwobrau Gwneuthurwyr Ffilm, nosweithiau sgrinio gwych i'r holl deulu a ffilmiau byr o dros y byd" meddai Cydlynydd Gŵyl Ffilm Zoom, Gemma Woolley.
Mae cyhoeddiad dyddiadau gŵyl 2012 hefyd yn cyd-daro gydag agoriad ymgeision am Wobrau Gwneuthurwr Ffilm Ifanc Zoom. "Mae'r ŵyl bellach yn agored i ymgeision gwneuthurwyr ffilm ifanc. Felly os oes gen ti ffilm, neu eisiau creu un cyn y dyddiad cau ar ddydd Gwener 17 Chwefror 2012 – e-bostia gemma@zoomcymru.com am ffurflen gais.
"Llynedd dangoswyd amrywiaeth anhygoel o ffilmiau byr o dros Gymru – comedïau, fideos cerddoriaeth, dramâu a dogfennau a rhai animeiddiadau anhygoel" meddai Gemma.
Bwriad Gŵyl Ffilm Pobl Ifanc Zoom ydy i ysbrydoli cynulleidfaoedd a gwneuthurwyr ffilm ifanc dros Gymru. Ffocws allweddol o'r ŵyl ydy trin a maethu gwneuthurwyr ffilm ifanc. Yn benodol gweithdai creu ffilm yr ŵyl a'r rhaglen 'Y Ffordd Yma i Mewn' sydd yn edrych ar lwybrau i mewn i'r diwydiant creadigol trwy arweiniad a chefnogaeth gan bobl broffesiynol blaenllaw byd cyfryngau Cymru.
Cadeirydd yr Ŵyl ydy John Geraint, un o gynhyrchwyr blaenllaw teledu annibynnol Cymru. Mae'n dweud: "Unwaith eto, mae Gŵyl Zoom yn cyfuno'r cyffro o'r sgrin fawr gyda'r hyfrydwch o ffilmiau wedi'u creu gan y bobl ifanc eu hunain. Dros Gymru, mae yna bobl ifanc gyda straeon i adrodd a'r sgiliau i roi nhw ar y sgrin. Mae Zoom yn ymwneud â dathlu hynny ac adeiladu arno."
Mae Zoom yn galw ei hun yn Ŵyl Ffilm Pobl Ifanc Rhyngwladol Cymru ac mae'r tag yn gwbl gyfiawn gyda llawer o ffilmiau o dros y byd. Yn agosach at adref, mae ffilmiau wedi cael ei greu mewn deg ysgol dros Rondda Cynnon Taf.
Mae digwyddiadau'r ŵyl yn digwydd yn Rhondda Cynnon Taf, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent, Torfaen a Caerffili. Capel Soar ym Mhenygraig fydd lleoliad y Seremoni Gwobr Gwneuthurwr Ffilm Ifanc Zoom ar ddydd Gwener 30 Mawrth.
Mae gŵyl eleni yn cael ei gefnogi gan Asiantaeth Ffilm Cymru, sydd wedi addo cefnogi am ddwy flynedd arall. Mae Zoom hefyd yn cydnabod cefnogaeth cais llwyddiannus diweddar i'r Loteri Fawr fydd yn cefnogi datblygiad a thyfiant Zoom dros y tair blynedd nesaf.
Chwilia amdanon ni ar www.zoomcymru.com a 'Hoffa' ni ar Facebook – chwilia am Zoom i gadw lle i sesiynau sgrinio a gweithdai.
Newyddion – Ffilmiau
Newyddion – Gwyl
Gwybodaeth – Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio







