Wythnos Ddemocratiaeth Leol
Cynhelir Wythnos Democratiaeth yn Wrecsam rhwng 11eg - 17eg Hydref 2008.
Mae'r ymgyrch ynghylch gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o'u cyngor lleol ac ymwneud â gwleidyddiaeth lleol - mewn ffordd hwyliog!
Mae 'Gadewch inni glywed amdano' yn annog pobl ifanc a'r Cyngor i weithio gyda'i gilydd i newid y gymuned er gwell.
Enillwch iPod, tocynnau sinema a thocynnau gig
DYDD SADWRN 11EG HYDREF 11am - 2pm
Lansiad yn Sgwâr y Frenhines. Bydd Calon FM yn darparu adloniant.
Ymhlith adrannau'r Cyngor fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad mae Ailgylchu gyda Michael, Cludiant Ysgol, Gwasanaethau Etholiadol, Tîm Chwarae Wrecsam, Hamdden, Ail lais, INFO Siop a chyrff allanol sef y Ddraig Ffynci a Canllaw Ar-lein.
DYDD LLUN 13eg Hydref 6pm yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt
Dadlau'n Daer! gyda Hawl i Holi
Bydd pobl ifanc a chynghorwyr yn trafod pynciau llosg mewn ffordd hwyliog! Croeso i bawb!
DYDD MAWRTH 14fed Hydref
Cynhelir etholiadau cynghorau ysgol mewn amryw o ysgolion uwchradd yn Wrecsam. Pleidleisiwch i leisio'ch barn!
DYDD MERCHER 15fed Hydref
Cynghorwyr yn dychwelyd i'r ysgol (Dydd)
Wrecsam Roc a Democratiaeth yn Central Station. Pedwar band ifanc lleol yn chwarae o 7pm hyd 10.30pm
DYDD IAU 16eg Hydref
WDL yng Ngholeg Iâl gyda Chynllun Dug Caeredin - Hyrwyddo democratiaeth leol mewn ffordd hwyliog!
DYDD GWENER 17eg Hydref
Hyfforddiant i Gynghorau Ysgolion Uwchradd.
Cyfle i bobl ifanc ddysgu sut i helpu gweithredu cyngor ysgol effeithiol.