Cadw’n Ddiogel 2010
Yfed Alcohol dros y Nadolig
Mae canllawiau'r llywodraeth yn argymell:
- bod dynion yn yfed dim mwy na 3 i 4 uned o alcohol (sef 2 beint o gwrw neu 4 fodca sengl) y diwrnod.
- bod merched yn yfed dim mwy na 2 i 3 uned o alcohol (175ml o win neu 3 fodca sengl) y diwrnod.
Felly, i aros yn ddiogel cofia:
- Yfed yn gallach - gadael lle i ddŵr a diodydd ysgafn - bydd hyn yn helpu hydradu dy gorff.
- Bwyta cyn - bydd bwyta tameidiau rhwng diodydd yn helpu arafu amsugno alcohol i dy gadw rhag mynd dros ben llestri.
- Cynllunio ymlaen llaw - cyn mynd allan trefnu sut wyt yn mynd i gyrraedd adref, sicrhau bod credyd ar dy ffôn symudol ac edrych ar ôl dy ffrindiau - PAID Â MYND ADREF AR DY BEN DY HUN.
- Cadw golwg ar dy ffrindiau - os bydd rhywun yn mynd i drafferth ffonio 999.
- Bod yn deithiwr diogel - os wyt ti'n cael lifft, sicrhau nad yw'r gyrrwr wedi bod yn yfed.
- Cadw llygad ar dy ddiod - mae'n hawdd rhoi pethau mewn diodydd - felly cadw dy ddiod yn agos.
Cryfhau Diodydd
Os wyt yn dechrau teimlo'n feddw iawn ar ôl tipyn bach o alcohol, neu os wyt yn meddwl bod rhywun wedi rhoi cyffuriau yn dy ddiod, cael dy ffrind i dy helpu (rhywun call) a mynd i le diogel mor fuan ag y bo modd. Paid â mynd adref efo neb nad wyt yn eu trystio'n hollol neu fynd Ysbyty Damweiniau ac Argyfwng.
Symptomau
- Eisiau cysgu neu bendro
- Teimlo'n ddryslyd neu mewn penbleth
- Methu siarad neu eirio'n aneglur
- Colli cydbwysedd ac yn ei chael yn anodd symud
- Methu gweld yn glir
- Gweld rhithiau
- Teimlo'n sâl neu chwydu
Os wyt yn dioddef symptomau fel eisiau cysgu, chwydu neu weld rhithiau, dweud wrth dy ffrindiau a mynd i adran Damweiniau ac Argyfwng (A&E) yr ysbyty agosaf ar unwaith.
Osgoi cael cyffuriau mewn diod
Os bydd rhywun wedi rhoi cyffur yn dy ddiod, mae'n annhebygol y byddi'n gallu gweld, clywed blas nac arogli unrhyw wahaniaeth. Felly, mae'n bwysig rhwystro rhag iddo ddigwydd. Dyma rai awgrymiadau i helpu aros yn ddiogel pan fyddi allan.
- Cadw dy ddiod yn dy law, dal dy fawd dros y pen os wyt yn yfed o botel.
- Cadw lygad ar ddiodydd dy ffrindiau.
- Paid â gadael dy ddiod yn unman ar unrhyw adeg.
- Paid fyth â derbyn llymaid gan neb ni wyt yn eu hadnabod neu drystio.
- Paid â rhannu neu gyfnewid diodydd, nac yfed diod dros ben.
- Pryd bynnag y bo modd yfed allan o botel gan ei bod yn anoddach rhoi cyffur mewn potel.
- Os wyt ti'n mynd i gyfarfod rhywun newydd, dweud wrth ffrind neu berthynas i ble'r wyt ti'n mynd a phryd y byddi'n ôl.
- Paid â dweud gormod amdanat dy hun (fel rhoi dy gyfeiriad) wrth rywun newydd.
Cofia, os wyt ti wedi bod yn yfed yn barod, y byddi'n fwy agored oherwydd bod alcohol yn gwanio dy reddfau a dy ymwybyddiaeth o berygl.
Peidiwch â mynd yn hunanfodlon - cofia bob amser y gallai ddigwydd i ti.
Alcohol a Rhyw Agored
Effaith 'gogls cwrw'.
Mae gormod o alcohol yn gallu effeithio ar dy farn rywiol. Yn sydyn, mae'r un nad wyt yn ei hoffi mewn gwirionedd yn mynd yn un o'r rhai sy'n edrych orau yn y parti. Mae'r sgil-effaith yma o yfed yn gallu peri embaras mawr.
Mae mynd adref efo'r un anghywir yn gallu bod yn beryglus hefyd. Mae bod yn feddw'n dy wneud yn agored i niwed, ac mae closio at rywun sy'n newydd i ti'n gallu arwain at fynd ymhellach nag wyt eisiau, neu hyd yn oed orffen mewn trais neu ymosodiad rhywiol.
Tra bo'n edrych fel bo ychydig o blwc potel gwrw'n rhoi hwb i dy hyder, mae'r siarad aneglur a'r chwydu sy'n dilyn gormod o alcohol yn gallu edrych yn llai na deniadol i'r un sydd wedi mynd â dy fryd.
Aros yn Ddiogel
- Cario condom - pa un ai wyt yn bwriadu yfed neu gael rhyw, condom yw'r ffordd orau o amddiffyn dy hun rhag clefydau rhyw. Mae'n well cario un rhag ofn.
- Cadw rheolaeth - pan ddaw i ryw, ti yw'r un sydd â rheolaeth dros beth sy'n digwydd neu beidio. Ddylet ti fyth deimlo dan bwysau i fynd ymhellach nag wyt eisiau.
- Cadw olwg ar dy ffrindiau - os gweli un o dy ffrindiau'n gadael efo rhywun newydd, gofyn a yw'n iawn i fynd. Bydd yn diolch i ti am hynny'n nes ymlaen.
Ar gyfer atal cenhedlu brys cofia fynd at y fferyllydd sy'n cynnig y gwasanaethu hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am faterion cyffuriau ac alcohol cysyllta â
Canolfan Pobl Ifanc Victoria
13 Stryt yr Allt
Wrecsam
01978 316750