Gwasanaethau Cynghori
Mae pawb yn cael anawsterau ar ryw adeg yn eu bywydau, a gall fod yn ddefnyddiol cael trafod pethau efo rhywun fydd yn gwrando heb eich beirniadu.
Efallai nad ydych yn dewis siarad am eich problemau efo ffrindiau a theulu, neu efallai eich bod yn ofni y bydd rhywun yn ailadrodd eich hanes wrth bobl eraill.
Bydd pobl yn mynd i gynghori am amryw o resymau gwahanol. Efallai eich bod yn delio â rhywbeth a ddigwyddodd i chi yn y gorffennol, neu’n ymgodymu efo rywbeth sy’n digwydd yn eich bywyd heddiw. Mae cynghori’n gallu helpu i chi weld eich hun yn wahanol sy’n gallu cynyddu eich hunan-barch a rhoi hwb i’ch hyder.
Mae gweithio gyda chynghorwr yn gallu rhoi lle a rhyddid i sôn am eich teimladau ac i weithio drwy eich problemau gyda rhywun na fydd yn eich beirniadu ac sydd wedi cael hyfforddiant arbennig i wrando arnoch a’ch deall o’ch safbwynt chi.
Dyma rai o’r pethau y bydd pobl ifanc yn sôn amdanynt efo’u cynghorwr- Bwlio
- Iselder
- Unigrwydd
- Poen meddwl
- Cysylltiadau
- Hunan niwed
- Rhywioldeb
- Dicter
- Straen
- Anhwylderau bwyta
- Hunaniaeth rhyw
- Camddefnyddio cyffuriau
- Meddyliau hunanladdol
- Tai
- Bwyd a thymer
- Profedigaeth (pan fydd rhywun agos atoch wedi marw)
Gwasanaethau Cynghori yn Wrecsam
Gwasanaeth Cynghori Outside In
Mae Outside In yn wasanaeth cynghori cydgyfrinachol ac am ddim yn Siop INFO. Galwch heibio i gael manylion neu ffoniwch i wneud trefniant.
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Asesiad a diagnosis o anhwylderau iechyd y meddwl a phroblemau cysylltiedig gan gynnwys gwewyr meddwl, iselder, OCD, anhwylderau bwyta, anhwylder straen wedi trawma ac ADHD. Byddai triniaeth trwy therapïau ac ymyriadau ar sail tystiolaeth a gall gynnwys CBT, addysg seicogymdeithasol, EMDR, gwaith teuluol, therapi siarad un-i-un, gwaith grŵp a meddyginiaeth; neu gyfuniad ohonynt.
Ffurfiwyd y gwasanaeth o dîm amlddisgyblaethol o feddygon, seicotherapyddion, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr cymdeithasol ac mae modd gwneud cyfeirebau trwy weithwyr proffesiynol fel nyrsys ysgol, meddygon teulu, seicolegwyr addysgol ac ati.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig cyngor, ymgynghori a hyfforddiant mewn iechyd meddwl plant i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn Wrecsam.
CAMHS
Canolfan Iechyd Plant
Ysbyty Maelor
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
LL13 7ZA
01978 725242
Release
Os bydd rhywun agos atoch wedi marw, Mae Release yn cynnig cefnogaeth mewn profedigaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd. Cyngor a chefnogaeth i rieni / gofalwyr / gweithwyr proffesiynol sy’n cynnal pobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth. Addysg ar: plant a galar ar gyfer holl asiantaethau â diddordeb.
Release
Hosbis Tŷ’r Eos
Ffordd Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
01978 316807
Prosiect Pobl Ifanc Stepping Stones
Mae Stepping Stones yn elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau therapiwtig i bobl ifanc sydd wedi cael camdriniaeth rywiol fel plant ar hyd a lled rhanbarth Gogledd-ddwyrain Cymru. Gall gweithiwr allweddol gyfeirio rhai a ddioddefodd neu gallant hunangyfeirio trwy gysylltu â’r swyddfa.
01978 352717
Relate Gogledd Cymru
Gwasanaeth cynghori cydgyfrinachol yn anelu at bawb sy’n cael cyfathrebu’n anodd, h.y. cysylltiadau, cyfeillgarwch, problemau yn yr ysgol, teuluoedd sy’n ymdopi â gwahanu neu ysgariad, cysylltiadau newydd, ailbriodi a phroblemau teuluoedd estynedig.
Relate Gogledd Cymru
59 Stryt y Brenin
Wrecsam
LL11 5HR
01978 314763
NSPCC
Gwasanaeth cynghori mewn ysgolion uwchradd. Mae’r NSPCC yn cynnig diwrnodau iechyd, hyfforddiant cefnogi cyfoedion, amser cylch, cadw’n ddiogel, amddiffyn plant a hyfforddiant ymwybyddiaeth bwlio.
NSPCC
11 Grosvenor Road
Wrexham
LL11 1BS
01978 362383
Atebion NCH - Caia, Plas Madoc a Wrecsam
Gwasanaeth cynghori therapiwtig i blant a theuluoedd, lle nodwyd anawsterau emosiynol a seicolegol eginol. Yr agwedd yw canolbwyntio ar atebion.
NCHLongfields
Ffordd Sonlli
Wrecsam
LL13 7EN
01978 264040