Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc
Ydych chi - neu rywun agos atoch - yn cael problemau gyda chyffuriau ac alcohol? Gallwn gynnig help i chi.
Yn ‘Y Vic’, mae’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc yn cynnig gwasanaeth cydgyfrinachol i bobl ifanc sy’n defnyddio sylweddau. Rydym yn dîm cyfeillgar ac anfeirniadol a byddwn yn gweithio efo chi i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd sy’n iawn i’ch anghenion.
Mae’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc yn cynnwys addysg, cefnogaeth, triniaeth (pan fo hynny’n briodol) a gweithgareddau fydd yn tynnu eich sylw o’r gweithgareddau sy’n effeithio ar eich bywyd a chysylltiadau. Mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithio’n agos ac yn gefnogol gyda phlant rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau.
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Pobl IfancCanolfan Pobl Ifanc ‘Y Vic’
13 Stryt yr Allt
Wrecsam
LL11 1SN
01978 316750
Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam
Partneriaeth yw Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam rhwng CAIS a Shelter Cymru ac mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc gan gynnwys cyngor tai arbenigol.
Gall Pobl Ifanc alw draw unrhyw bryd rhwng 9.00 a 5.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam65 Stryt y Brenin
Wrecsam
LL11 1HR
01978 314314
CAIS
Mae CAIS yn darparu gwasanaethau arbenigol cyffuriau ac alcohol yng Ngogledd Cymru.
CAIS Cyf
Swyddfa Ranbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru
Grove Park House
11 Ffordd y Llwyni
Wrecsam
LL12 7AA
01978 367030
01978 367039
Argyfwng Cyffuriau
Weithiau mae cyffuriau’n gallu gwneud i bobl deimlo’n swrth iawn – neu hyd yn oed yn anymwybodol. Weithiau mae pobl sydd wedi cymryd cyffuriau’n gall mynd ar bigau’r drain ac ofnus iawn. Gallant ddechrau goranadlu (anadlu’n gyflym iawn) a theimlo’n sâl a chwil. Allwch chi ddim dweud yn union pa gyffuriau sy’n achosi’r problemau hyn. Mae gwahanol gyffuriau’n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol.
Os yw rhywun yn mynd i banig.
- Ceisiwch eu distewi
- Cadwch nhw i ffwrdd o sŵn mawr a goleuadau disglair
- Siaradwch yn ddistaw a dweud wrthynt y bydd y teimlad o banig yn mynd yn raddol
- Mae rhai pobl sydd wedi cael problemau efo chyffuriau yn fyw heddiw am fod eu mêts yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng.
Os yw rhywun yn swrth neu’n anymwybodol.
- Sicrhewch fod ganddynt ddigon o awyr iach, oer – yn enwedig os ydych yn meddwl eu bod wedi cymryd ecstasi
- Peidiwch â’u dychryn mewn unrhyw fodd – yn enwedig os ydych yn meddwl eu bod wedi bod yn anadlu nwyon, gludion neu erosolau
- Peidiwch â thaflu dŵr drostynt
- Trowch nhw ar eu hochr a’u rhoi yn yr ystum adfer
- Deialwch 999 i gael ambiwlans – ni fyddwch yn mynd i drwbl
- Rhowch unrhyw gyffuriau a welwch i’r criw ambiwlans
Pam na ddysgwch chi rywfaint o gymorth cyntaf sylfaenol?
Mae Urdd Sant Ioan a’r Groes Goch Brydeinig lleol yn cynnal cyrsiau cymorth cyntaf. Gallwch chwilio amdanynt yn y llyfr ffôn neu ffoniwch:Hyfforddiant Cymorth Cyntaf y Groes Goch Brydeinig 0844 8718000
Ambiwlans Sant Ioan 08700 104950
Beth i’w Wneud os Dowch o hyd i Nodwydd neu Chwistrell
Peidiwch â Chyffwrdd - Dywedwch!
FFONIWCH 01978 292040
Dyma’r brif neges os dowch o hyd i nodwydd neu chwistrell. Pethau eraill i’w cofio yw:
- Asesu’r perygl i chi eich hun ac eraill (yn enwedig plant)
- Peidiwch FYTH â cheisio ei chodi
- Marciwch y lle (heb berygl gormodol)
- YN UNIG os yw’n ymddangosiadol bod perygl dybryd i eraill: Symudwch y peth dros dro, yn ofalus rhag cael niwed, gan ddefnyddio padell a brwsh (neu debyg)
- YMHOB achos ffoniwch:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Adran yr Amgylchedd ar 01978 292040. Byddant yn trefnu ei symud.