dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Cael Clywed Eich Llais

Yn Wrecsam, Cymru ac yn rhannau eraill y DU, mae gan blant a phobl ifanc hawl i fynegi eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy. Mewn llawer o rannau eraill o’r byd, nid oes llais gan blant a phobl ifanc. Os hoffech wneud eich barn yn hysbys, trafod materion sy’n effeithio arnoch, neu fynegi eich barn ar bynciau’r byd, ymwelwch â:

Cysylltiadau Lleol

Gwasanaeth Eiriol Ail Lais

Weithiau rydym i gyd angen help i gael clywed ein lleisiau. Eiriolaeth yw pan fydd rhywun arall yn eich helpu i ddweud eich barn, yn helpu cywiro rhywbeth sy’n anghywir, fel cwyno neu gyflwyno eich ochr chi o’r stori mewn sefyllfaoedd lle’r ydych yn teimlo na allwch. Gallai hyn fod yn yr ysgol, gartref, yn y llys - unrhyw fan mewn gwirionedd lle mae’n bwysig i chi gael dweud eich dweud!

Prosiect eiriolaeth yw Ail Lais a sefydlwyd i helpu gwneud sicrhau pan fyddwch angen help i egluro neu gwyno am bethau sy’n bwysig i chi, bod eiriolwr cymwys ar gael i’ch cefnogi.
Eiriolwr yw rhywun fydd

Ni fydd eiriolwr

Mae eiriolwyr wedi cefnogi pobl ifanc gael clywed eu llais

Mae grŵp 'Dewis' Gwasanaethau Eiriol pobl ifanc Ail Lais yn cyfarfod bob wythnos yn INFO. Os ydych yn 11-16 oed ac eisiau cymryd rhan mewn cynllunio a datblygu'r gwasanaeth hwn i bobl ifanc cysylltwch ag Ail Lais ar 0800 0322630.

Os byddwch angen help i gael clywed eich llais neu os byddech yn hoffi ymuno â’r grŵp ar ddydd Iau yna galwch heibio’r Siop INFO neu gysylltu â:

Ail Lais
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB

RHADFFôN 0800 032 2360

Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)

Gwasanaeth eiriol hawliau plant a phobl ifanc yw hwn sy’n helpu’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Byddant yn helpu datrys eich problemau yn y ffordd orau a chyflymaf.
Os ydych yn anhapus efo ateb a gawsoch gan eich Gweithiwr Cymdeithasol neu aelod o staff, bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn eich helpu chi gwyno. Enw hyn yw eiriolaeth. Bydd yr eiriolwr yn siarad efo chi, yn penderfynu beth rydych eisiau ei ddweud ac yn siarad ar eich rhan.

Swyddog Hawliau Plant
NYAS
84 Stryd Fawr
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1AW

Llinell Gymorth: 0800 616101
nyascymru@nyas.net

Cysylltiadau Cenedlaethol

Comisiynydd Plant Cymru

Weithiau mae’r Comisiynydd Plant yn cael ei ddisgrifio fel cefnogwr plant a sefydliad hawliau dynol annibynnol i blant. Mae’r union beth mae Comisiynwyr Plant yn ei wneud, a sut maent yn ei wneud, yn amrywio o wlad i wlad – ond buddiannau plant a phobl ifanc syn bwysig iddynt yn y bôn.

Os byddwch yn meddwl nad yw eich hawliau - neu hawliau plant neu bobl ifanc yr ydych yn bryderus yn eu cylch - yn cael eu parchu, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Plant. Efallai y gallwn eich helpu - neu o leiaf eich cyfeirio at rywun sy’n gallu.

Comisiynydd Plant Cymru
Penrhos Manor
Oak Drive
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7YW

01492 523333
Ffacs: 01492 523336
post@childcomwales.org.uk

Y Ddraig Ffynci

Y Ddraig Ffynci yw’r Cynulliad i Blant a Phobl Ifanc Cymru. Ei brif waith yw sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei chlywed, yn enwedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a chefnogi cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau cenedlaethol.

HeadsUp

Lle yw HeadsUp y gall pobl ifanc fynd iddo i drafod materion gwleidyddol a materion cyfoes. Ond mae’n fwy na dim ond siarad, mae ynghylch cael gwneud rhywbeth.

Cyngor Ieuenctid Prydain

Nod Cyngor Cenedlaethol Ieuenctid y DU yw cefnogi holl bobl ifanc yn y DU i arfer eu hawliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a chael llais ar faterion sydd ganddynt farn gref yn eu cylch.

Petition the UK Government

Trwy’r wefan hon gallwch sefydlu neu ymuno â deisebau sy’n cael eu cyflwyno i’r Prif Weinidog. Mae’r deisebau’n cwmpasu pynciau cenedlaethol a lleol ar amrywiaeth eang o faterion.

NSPCC

Mae’r elusen hon, sy’n arbenigo mewn amddiffyn plant, yn cynnal ymgyrchoedd arbennig, fel gwrth-fwlio a gwrth-drais yn erbyn plant.

Achub y Plant

Edrychwch ar dudalen yr ymgyrchwyr ifanc i gael syniadau a gwybodaeth am sut i helpu pobl ifanc gael clywed eu lleisiau - mewn ysgolion, yn eu cymuned neu gan lywodraethau.