dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Iechyd Rhywiol

Meddwl bod gen ti STI?

Mae rhai heintiau’n gallu mynd i rywun arall trwy ryw gweiniol, rhefrol neu eneuol diamddiffyn, trwy gysylltiad gwenerol. Yr enw ar heintiau sy’n ymledu fel hyn yw heintiau rhywiol.

Mae rhyw mwy diogel yn golygu defnyddio condom yn gywir bob tro’r wyt yn cael rhyw. Os na fyddi’n defnyddio condom rwyt mewn mwy o berygl o gael haint rhywiol. Mae condomau ar gyfer dynion a merched.

Nid oes angen bod â llaweroedd o bartneriaid rhywiol i gael haint.

Mae modd trin y rhan fwyaf o heintiau rhywiol ac fel arfer mae’n well dechrau’r driniaeth mor fuan ag y bo modd.

Os byddi’n dioddef unrhyw rai o’r canlynol dylet ofyn am gyngor:

Os wyt wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom rwyt mewn perygl. Gelli gael archwiliad yn y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Mae’r gwasanaeth yn gydgyfrinachol.

Clinigau Iechyd Rhywiol

Y clinigau iechyd rhywiol yn Wrecsam yw’r Siop Info ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae’r Siop Info’n rhoi cyngor iechyd rhywiol i bobl ifanc 25 oed ac iau trwy alw heibio. Mae’n cynnig gwahanol atal cenhedlu fel condom, pilsen, pigiad ac impiad; nid yw’r Siop Info’n gwneud profion heintiau rhywiol ond mae’n gallu rhoi gwybodaeth. Mae hefyd yn cynnig profi beichiogrwydd – dim ond gofyn i aelod o’r staff.

Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o rwbiadau serfigol, i brofi beichiogrwydd a’r gwahanol ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael. Mae’r ysbyty hefyd yn profi’n llawn am heintiau rhywiol sy’n gallu golygu gorfod rhoi sampl o ddŵr, cael prawf gwaed neu gymryd swab. Nid yw’n wasanaeth galw heibio gan fod rhai clinigau ar ddiwrnodau arbennig a rhaid gwneud trefniant.

Mae modd gwneud trefniadau ar gyfer tynnu / gosod impiad.

Dyma oriau agor Siop Info a chlinigau Ysbyty Wrecsam Maelor:

Dydd Llun

INFO

2 Arcêd y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam

Mae nyrsys ar gael rhwng 3.00pm a 5.30pm. (Planiad ar ddydd Gwener yn unig)

Rhif ffôn 01978 358900

Dydd Mawrth

Ysbyty Maelor Wrecsam

Mynedfa 3
Ffordd Crosnewydd
Wrecsam

9.30am i 12.00pm
1.00pm i 3.00pm
4.30pm i 7.00pm

Mae’r ysbyty trwy drefniant yn unig – ffoniwch 48 awr cyn disgwyl cael trefniant.

Rhif ffôn 01978 727197

Dydd Mercher

INFO

2 Arcêd y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam

Mae nyrsys ar gael rhwng 3.00pm a 5.30pm. (Planiad ar ddydd Gwener yn unig)

Rhif ffôn 01978 358900

Ysbyty Cymuned y Waun

Oddi ar Stryd St John
Y Waun
LL14 5LN

Yn agored ar sail galw heibio ar gyfer atal cenhedlu a phrofion STI cyffredinol, ewch i Ysbyty Maelor Wrecsam os oes gennych symptomau STI.

Rhif ffôn 01691 773245

Dydd Iau

Ysbyty Maelor Wrecsam

Mynedfa 3
Ffordd Crosnewydd
Wrecsam

10.00am i 12.00pm
1.00pm i 4.00pm
4.30pm i 6.30pm

Mae’r ysbyty trwy drefniant yn unig – ffoniwch 48 awr cyn disgwyl cael trefniant.

Rhif ffôn 01978 727197

Dydd Gwener

INFO

2 Arcêd y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam

Mae nyrsys ar gael rhwng 3.00pm a 5.30pm. Ar hyn o bryd, dydd Gwener yw’r unig ddiwrnod y gallwn roi planiad.

Rhif ffôn 01978 358900

Ysbyty Maelor Wrecsam

Mynedfa 3
Ffordd Crosnewydd
Wrecsam

9.30am i 1.00pm
2.00pm i 4.00pm

Mae’r ysbyty trwy drefniant yn unig – ffoniwch 48 awr cyn disgwyl cael trefniant.

Rhif ffôn 01978 727197

Dydd Sadwrn

INFO

2 Arcêd y Gogledd
Stryt Caer
Wrecsam

Mae nyrsys ar gael rhwng 11.00am a 1.30pm. (Planiad ar ddydd Gwener yn unig)

Rhif ffôn 01978 358900

Rhifau Defnyddiol

Llinell Gymorth Cynllunio Teulu – 01745 44 33 01

Gwasanaeth Iechyd Rhywiol Ysbyty Maelor (Adran GUM) – 01978 727197

BPAS – 08457 304030

BROOK – 0800 01 850 238

FPA – 0800 567 123

SURESTART – Bydwraig Gymunedol – 07802 371 431