dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Addysg

Addysg yw'r allwedd i'ch dyfodol, ac nid yw fyth yn rhy hwyr i ddysgu

Mae rhai pobl yn gwybod beth maent am ei wneud gyda'u dyfodol yn gynnar mewn bywyd, ond nid oes gan lawer ohonom unrhyw syniad, ac yn aml nid oes gennym syniad sut i ddechrau meddwl am y peth. Y peth pwysicaf yw peidio mynd i strach yn ei gylch.

Yn y lle cyntaf, mae'r dyddiad o aros mewn un yrfa am oes wedi mynd, ac mae llawer o bobl yn newid eu gyrfa sawl gwaith yn eu hoes, gan fynd â'r sgiliau a ddysgwyd efo nhw. Felly, mae'r penderfyniadau a wnewch heddiw'n bwysig, ond nid yw'n golygu y byddwch yn yr un lle am byth!

Yn ail mae llawer o bobl sy'n gallu rhoi help i chi wneud y penderfyniadau yma a chael gwybod mwy am wahanol yrfaoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

Penderfyniadau wrth gyrraedd 14

Beth ddylwn i feddwl amdano?

Ym Mlwyddyn 9, am y tro cyntaf, cewch y cyfle i ddewis y pynciau y byddwch yn eu hastudio ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Gallai'r rhain fod yn TGAU, CGCC neu TGAU Galwedigaethol, CGC neu CoEA. Dylech feddwl am y canlynol wrth ddewis:

Rhaid i chi ddilyn nifer o bynciau ym Mlynyddoedd 10 a 11 sy'n cael eu galw'n Bynciau Gorfodol, gan gynnwys:

Mae'n bwysig gwneud gystal ag y gallwch yn y pynciau hyn, gan eu bod yn hanfodol i lawer o swyddi. Mae cyflogwyr yn arbennig yn chwilio am raddau TGAU da mewn Saesneg a Mathemateg.

Pwy allu fy helpu i ddewis? Mae nifer o bobl wahanol all helpu i chi benderfynu ar eich dewisiadau gyrfa gan gynnwys:

Os oes eisiau help arnoch i benderfynu ar eich dewisiadau pynciau, gofynnwch i gael gweld eich Ymgynghorydd Gyrfaoedd. Gallwch hefyd fynd i dudalennau Gyrfa Cymru am ddewisiadau 14.

Penderfyniadau wrth gyrraedd 16

Beth ddylwn i wneud?

Mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi ar ddiwedd Blwyddyn 11 ac mae'n bwysig ystyried pob un yn ofalus. Bydd eich dewis yn dibynnu ar bethau fel: yr yrfa a ddewiswyd, eich graddau TGAU, sut ydych chi'n dysgu orau a beth hoffech chi wneud nesaf. Y prif ddewisiadau ar gael i chi yw:

Addysg Lawn-amser

Ar ôl Blwyddyn 11 gallwch aros ymlaen yn y chweched dosbarth yn eich ysgol neu fynd i goleg addysg bellach lleol fel Coleg Iâl. Yng Ngholeg Iâl gallwch ddilyn cyrsiau academaidd (y math o bynciau y byddech yn eu hastudio yn yr ysgol) a chyrsiau galwedigaethol (pynciau sy'n gysylltiedig â gyrfa arbennig) yn dibynnu ar eich anghenion. Mae cyrsiau ar gael yn llawn-amser a rhan-amser.

Cofiwch os byddwch yn aros ym myd addysg, y gall fod gennych hawl i gymorth ariannol.

Hyfforddiant yn y Gwaith

Dyma'r “dewis ennill wrth ddysgu!” Hyfforddiant wrth waith mewn gyrfaoedd fel Siopau, Peirianneg, Gweinyddu Busnes, Cyfrifeg ac Arlwyo. Bydd y cymwysterau a sgiliau y mae gofyn i chi eu cael yn dibynnu ar y math o waith, ac felly hefyd yr hyfforddiant a gewch. Mae hon yn ffordd iawn i bobl sy'n hoffi dysgu trwy wneud. Edrychwch ar Gyrfa Cymru.

Penderfyniadau wrth gyrraedd 17

Ym Mlwyddyn 12 neu yn eich blwyddyn gyntaf yn y coleg mae angen i chi ddechrau meddwl yn ddifrifol ynghylch beth ydych chi'n mynd i wneud ar ôl gorffen eich Safonau Uwch Atodol, Safonau Uwch, TAAU neu IB. Mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi, yn dibynnu ar ffactorau fel: eich uchelgais gyrfa, llwyddiant academaidd, dewis personol, amgylchiadau ariannol a'ch sgiliau allweddol.

Y prif ddewisiadau sydd ar gael i chi yw:

Chwilio am Waith

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Os ydych yn 16 oed a newydd sefyll eich TGAU, yna darllenwch fwy -bydd hyn yn effeithio arnoch chi!

Os byddwch yn aros yn yr ysgol neu'n dilyn addysg bellach ar ôl eich TGAU, er mwyn astudio ar gyfer Safon Uwch Atodol / Safon Uwch, CGC ac ati, yna gallwch dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).

Bydd faint o arian a gewch yn dibynnu ar faint o incwm sy'n dod i'ch cartref bob wythnos ac, i fod yn gymwys, byddwch yn gorfod ymrwymo i 12 awr o astudio yr wythnos o leiaf.

Gallwch gael hyd at £30 yr wythnos.

Yn ogystal â hyn mae bonysau i chi os byddwch yn cyflawni rhai amcanion. Dylech allu casglu eich ffurflen gais heddiw o'ch ysgol neu goleg.

Os yw incwm eich cartref yn £30,810 neu drosodd ni fydd gennych hawl i LCA

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflen gais i lawrlwytho, ymwelwch â www.studentfinancewales.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r dewisiadau hyn galwch heibio'r siop yrfaoedd leol yn Wrecsam neu ffonio (01978) 317015 i wneud trefniant.

Dechrau o'r Newydd

Os nad ydych wedi gweithio ers gadael addysg lawn-amser neu ran-amser, os ydych wedi bod allan o'r gweithle ers tipyn, neu os ydych eisiau hyfforddi ar gyfer rhywbeth gwahanol i'ch gwaith presennol, mae rhai dewisiadau'n dal ar gael i chi. Edrychwch ar y gwefannau isod.

Cysylltiadau Lleol

FynewisiWrecsam

Ydych chi rhwng 14 a 16 mlwydd oed ac yn dewis beth I'w astudio? Bydd y wefan hon yn eich hepu I ddewis y cwrs iawn I chi!

Gyrfa Cymru

I gael gwybodaeth a chyngor ynghylch eich dewisiadau drwy gydol yr ysgol a thu hwnt gan gynnwys gwybodaeth am wahanol alwedigaethau.

Siop Gyrfa Wrecsam
Tŷ Egerton
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EQ

01978 317015
Ffacs: 01978 317011
enquiries@cwne.org

Coleg Iâl

Coleg trydyddol yw Coleg Iâl, sy'n darparu i'r rhan fwyaf o addysg a hyfforddiant ôl-16 oed yn y cylch.

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Llwyni
Wrecsam
LL12 7AB

01978 311794
Ffôn testun: 01978 316489 (i'r rhai gydag anawsterau clywed)
Ffacs: 01978 291569

Prifysgol Glyndŵr

Prifysgol Glyndŵr yw'r brifysgol ieuengaf yng Nghymru - sefydliad addysg newydd sy'n cefnogi ysbryd menter ac athroniaeth allblyg. Mae hyn yn cyhoeddi cyfnod newydd cyffrous i Wrecsam, Cymru, y gororau a'r byd academaidd.

Prifysgol Glyndŵr
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

01978 290666
Ffacs: 01978 290008
sid@glyndwr.ac.uk

Coleg Llysfasi

Mae Coleg Llyfasi'n ganolfan gwybodaeth arbenigol ym maes Astudiaethau Amaethyddol. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau llawn-amser, rhan-amser a seiliedig ar waith yn yr adrannau Peirianneg, Gofalu am Anifeiliaid Bach, Gofal a Gofal Plant, Gwallt, Harddwch a Therapi Cyfannol, TG a Busnes, Ieithoedd Modern a Chymraeg.

Coleg Llysfasi
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 2LB

01978 790 263
Ffacs: 01978 790 468

Hyfforddiant Wrecsam
(Rhan o Goleg Llysfasi)
Felin Puleston
Ffordd Rhiwabon
Wrecsam
LL13 7RF

01978 363033
Ffacs: 01978 362959

admin@llysfasi.ac.uk

ITeC Wrecsam

Mae mynychu Cwrs Meithrin Sgiliau yn ITeC Wrecsam yn helpu rhai 16 a 17 oed gael gwaith llawn-amser. Mae'r cwrs yn cynnwys Chwilio am Swydd, Sgiliau Meddal, Sgiliau Allweddol a hyfforddiant Technoleg Gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Office ac mae'n cynnwys o leiaf 2 wythnos o brofiad gwaith gyda chwmni lleol. Y gobaith yw cael swydd lawn-amser erbyn diwedd y cwrs gyda'r cyfle i weithio tuag at gymhwyster CGC priodol.

Gwaith Ieuenctid mewn Addysg

Mae'r tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg yn gweithio ar y cyd ag ysgolion uwchradd. Rydym yn cyflwyno rhaglenni i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc, rhoi cyfleoedd iddynt gael achrediad a rhoi mynediad at amrywiaeth o weithgareddau sy'n briodol i'w anghenion. Mae pwyslais ar helpu pobl ifanc wella cyflawniad addysgol a phersonol, gwella iechyd a ffyniant a chynyddu uchelgais. Gwaith un i un ac eiriolaeth / cyfeirio, gwaith grŵp seiliedig ar bynciau llosg a chyfeirio at ryw benodol. Mynediad Pobl Ifanc, Rhaglen Bontio, Rhaglen Addysgu Teithwyr, GOCUS, Addysg Cyfoedion. Gwobr Dug Caeredin, Gwaith Ieuenctid a Chymunedol a sesiynau atal ac ymwybyddiaeth.

Gwaith Ieuenctid mewn Addysg
Ymlaen
Canolfan Fyfyrwyr Lôn Dodd
Gwersyllt
Wrecsam
LL11 4PA

01978 722072

Prifysgol Plant a Phobl Ifanc

Menter ar y cyd yw Prifysgol y Plant rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam a Prifysgol Glyndŵr. Mae'n system sy'n cydnabod, yn gwobrwyo ac yn dathlu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth eang o brofiadau dysgu sy'n digwydd tu allan i oriau ysgol. Mae hyn yn golygu y byddai modd rhoi credydau am unrhyw glwb, canolfan neu weithgaredd y mae pobl ifanc yn ymwneud â hwy oddi allan i'r ysgol, o Archeoleg i Ymaflyd. Caiff un credyd ei roi am bob awr o gyfranogiad, ac maent yn cael eu bancio ac yn cynyddu'n Wobrau Efydd, Aur ac Arian. I gael rhagor o fanylion gofynnwch i arweinydd eich clwb neu weithiwr ieuenctid.

Prifysgol y Plant
Ystafell M8
Prifysgol Glyndŵr
Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW

01978 293319

Cymorth Myfyrwyr Cyngor Wrecsam

Rydym yn gyfrifol am asesu cymhwyster a hawl holl fyfyrwyr sy'n byw fel arfer yn ardal yr Awdurdod ac sy'n mynd i Golegau a Phrifysgolion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Ein prif ddiben yw sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a chyngor sydd arnoch ei hangen i sicrhau bod eich addysg uwch mor ddihelbul ag y bo modd.

Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr
16 Stryt Y Arglydd
Wrecsam
LL11 1LG

01978 297406
Ffacs: 01978 297501
student.support@wrexham.gov.uk

CYFLE

Uned cyfeirio disgyblion addysg ar gyfer mamau oed ysgol. Gwasanaeth cyfun gyda Gwasanaeth Bydwreigiaeth Ysbyty Maelor. Cynnig addysg a chefnogaeth arall i holl ferched oed ysgol a hyd at 17/18 sy'n feichiog neu sydd newydd esgor os yw hynny'n briodol.

CYFLE P.R.U.
Canolfan Gymunedol Abenbury
Ffordd y Bont
Pentre Maelor
LL13 9PT

01978 661878
headteacher@cyfle-pru.wrexham.sch.uk