dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Yr Amgylchedd

Mae angen i bawb a phopeth fod yn ei amgylchedd iawn os yw’n mynd i berfformio’n briodol, ffynnu a phara’n fyw.

Pan fyddwn yn clywed y gair ‘amgylchedd’ rydym yn tueddu i feddwl am gynhesu byd-eang, rhywogaethau mewn perygl, llygredd, newyn – materion o bwys sy’n gallu ymddangos yn llethol. Ond mae’r ‘amgylchedd’ hefyd yn berthnasol i’r lle o’ch cwmpas – eich cartref, lle’r ydych yn astudio, lle byddwch yn gweithio, lle byddwch yn ymlacio – eich pentref neu dref a chefn gwlad o gwmpas.

Fe allwn i gyd wneud cyfraniad at greu’r amgylchedd iawn, boed hynny yn ein cymuned leol neu trwy helpu datrys problemau byd-eang.

Bydd y cysylltiadau hyn yn helpu i chi i ymchwilio i faterion amgylcheddol a chael gwybod sut y gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n rhedeg o ailgylchu gwastraff i ailadeiladu cymunedau a ddinistriwyd gan drychinebau naturiol.

Cysylltiadau Lleol

INFO

Cymorth a chyngor ar bob math o faterion i bobl ifanc, gan gynnwys materion amgylcheddol.

Llun, Mercher, Gwener 11.30am - 5.30pm
Mawrth, Iau 11.30 - 4.30pm

INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB

01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Materion Amgylcheddol

Ymddiriedolaeth Groundwork

Mae Ymddiriedolaeth Groundwork yn cefnogi cymunedau, busnesau, ysgolion ac amrywiol sefydliadau gydag amrywiaeth mawr o brosiectau amgylcheddol ac adfywio economaidd ymarferol.

01978 757524

BTCV (Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain)

Mae BTCV yn cynnig cymorth i brosiectau cadwraeth amgylcheddol ac mae’n cynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr a thrwy gynllun y Fargen Newydd.

01978 261538

NEWI (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru)

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth eang o gyrsiau amgylcheddol NEWI yw cartref Fforwm Cynaladwyedd Wrecsam.

01978 293117

Rhwydwaith ARENA

Sefydliad annibynnol yw Rhwydwaith ARENA sy’n rhoi cefnogaeth ymarferol i fusnesau a sefydliadau eraill yn bennaf yng Nghymru ar reoli amgylcheddol a materion cysylltiedig â hyfforddiant.

Rhwydwaith ARENA
Parc Busnes Rhydfudr
Stad Ddiwydiannol Wrecsam
LL13 9XQ

01978 664169

natalie.campbell@arenanetwork.org

Cysylltiadau Cenedlaethol

Canllaw Online

Gwefan gwybodaeth genedlaethol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Clic Online

Gwefan wybodaeth genedlaethol ar gyfer pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru

Gwefan swyddogol Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru.

Tŷ Cambria
29 Newport Road
Caerdydd
CF24 0TP

08708 506 506

Cyfeillion y Ddaear

Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth leol a chenedlaethol.

Ailgylchu

Llond gwlad o awgrymiadau a chyngor ar sut i ailgylchu popeth bron!

Freecycle

Ffurfiwyd y Rhwydwaith Freecycle o 4,152 o grwpiau gyda 4,031,000 o aelodau ar draws y byd. Mae’n symudiad gwerinol a hollol ddielw o bobl sy’n rhoi (ac yn cael) pethau am ddim yn eu trefi eu hunain