Iechyd
Nid yw unrhyw broblem iechyd yn unigryw, ond mae’n unigryw i chi. Beth bynnag yw eich problem - mae llawer o bobl eraill yn poeni yn ei gylch, neu'n dioddef ohoni.
Mae pryderon iechyd a chwestiynau cyffredin i bobl ifanc yn cynnwys:
- plorod
- cyffuriau ac alcohol
- gordewdra
- rhyw diogel
- anhwylderau bwyta
- tatŵau a thyllau
- iselder
- alergeddau
- hunan niwed
- delwedd corff
- iechyd meddwl
- cadw’n iach
- ysmygu
Bob dydd mae’n ymddangos bod braw iechyd newydd a sut wyddoch chi a ydych mewn perygl, sut allwch chi amddiffyn eich hun ac i ble allwch chi fynd i gael cymorth? Sut mae dweud a yw rhywbeth yn ‘normal’ neu angen sylw meddygol? Sut mae mwynhau bywyd a chadw’n iach?
Efallai fod gennych anabledd neu salwch ac yr hoffech gael gwybod mwy amdano a sut i ymdopi ag ef.
Peidiwch â phoeni a gwnewch rywbeth! Mae digon o fannau lle gallwch fynd i gael gwybodaeth ac mae llawer o bobl i siarad â hwy. Edrychwch ar yr holl gysylltiadau isod a dewis y rhai a feddyliwch fydd orau i chi.
Cysylltiadau Lleol
Meddygfeydd
Os bydd angen i chi gofrestru gyda GP lleol (meddyg teulu – eich meddyg), ymwelwch â’r wefan i gael rhestr o fanylion cysylltu holl feddygfeydd.
Os ydych yn ei chael yn anodd cofrestru gyda meddyg teulu yna cysylltwch ag
Adran Data Cleifion
Canolfan Gwasanaethau Busnes
Preswylfa
Ffordd Hendy
Yr Wyddgrug
CH7 1PZ
INFO
Cymorth a chyngor ar bob math o faterion, gan gynnwys iechyd, i bobl ifanc 11 i 25 oed.
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk
Eich Nyrs Ysgol
Mae’r Nyrs Ysgol yna i’ch helpu. Efallai mai’r Nyrs Ysgol yw’r unigolyn cyntaf i gael sgwrs a chael cyngor cydgyfrinachol am eich iechyd.
Mae gan Nyrs Ysgol ddwy brif swyddogaeth:
- Rhoi cyngor cydgyfrinachol i chi
- Gofalu am a diogelu eich iechyd corfforol ac emosiynol
Beth allaf i fynd i weld y Nyrs Ysgol yn ei gylch?
- I sôn am eich iechyd
- Os oes gennych broblemau iechyd hirdymor
- Eich cyfeirio at rywun arall sy’n gallu helpu, e.e. meddyg
- I dawelu meddwl a chael cefnogaeth emosiynol, e.e. os oes gennych broblemau gartref neu gyda’ch ffrindiau
- I sôn am eich pwysau a bwyta’n iach
I gael gwybodaeth a thaflenni, e.e. ar sut i roi’r gorau i ysmygu neu i gael gwybodaeth am ryw.
Cysylltwch â’ch ysgol neu Ganolfan Iechyd Ffordd y Llwyni (01978 362510) i gael manylion.
NSPCC
Gwasanaeth cynghori mewn ysgolion uwchradd. Diwrnodau iechyd, hyfforddiant cefnogi cyfoedion, amser cylch, cadw’n ddiogel, amddiffyn plant a hyfforddi ymwybyddiaeth bwlio.
NSPCC
11 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BS
01978 362383
bbishop@nspcc.org.uk
Llinell Gymorth
Llinell gymorth iechyd meddwl yn cynnig cefnogaeth, cyngor ymarferol a gwybodaeth am wasanaethau statudol a gwirfoddol sydd ar gael yn y cylch. Rydym hefyd yn darparu deunydd darllen hunangymorth am ddim i rai sy’n galw. Dim cyfyngiadau oedran.
Llinell Gymorth – Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru
Ffordd y Llwyni
Wrecsam
01978 366206
Rhadffôn: 0800 132737
CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc)
Addysg a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol eraill / gweithio amlddisgyblaethol. Asesiad a diagnosis o ADHD. Gweithdai ar gyfer pobl ifanc, brodyr a chwiorydd a rhieni. Cyngor ymddygiadol, llinell gynghori a gwasanaeth cyfeirio.
CAMHS
Canolfan Iechyd Plant
Ysbyty Maelor
Wrecsam
01978 725242
FPA Prosiect Jiwsi
Rhaglenni addysg gymunedol am ryw a pherthynas ar gyfer grwpiau o bobl ifanc glwyfadwy. Mae cangen hefyd yn Wrecsam yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai. Cysylltwch â Sandra Peters ar 01978 853111.
FPA Cymru
Greenhouse
1 Trevelyan Terrace
Bangor
Gwynedd
LL57 1AX.
Tîm Gwiath Ieuenctid Ysbyty Inspire
Gweithio gyda phobl ifanc yn yr ysbyty sydd â materion hunan-niweidio. Cefnogi gwaith ieuenctid ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty. Un i un a gwaith grŵp.
Tîm Gwiath Ieuenctid Ysbyty Inspire
Blwch Post 2073
Ysbyty Maelor Wrecsam
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
LL13 7ZA
01978 726002
NCH Longfields
Gwasanaeth therapiwtig i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma.
11 Ffordd Sonlli
Wrecsam
LL13 7EN
01978 264040
Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
Gwybodaeth gefnogi trwy daflenni. Llyfrgell fenthyca - fideo a phecynnau addysgu.
Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol
Llyfrgell Hybu Iechyd Cymru
Adeilad y Llyfrgell
NEWI Ffordd yr Wyddgrug
Wrecsam
LL11 2AW
01978 293265
MIND Wrecsam
Cynghori, gwasanaeth tai â chymorth, grwpiau therapi, hysbysrwydd ac addysg gyhoeddus, grwpiau hunangymorth
MIND Wrecsam
Llawr Uchaf
8 - 10 Stryt y Priordy
Wrecsam
LL11 1SU
01978 366155
Cysylltiadau Cenedlaethol
Canllaw Online
Gwefan wybodaeth genedlaethol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Clic Ar-lein
Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).
Slink
Cylchgrawn ar-lein yw Slink ar gyfer merched yn eu harddegau ifanc, 13 i 16 oed. Bwriad y wefan yw rhoi gwybodaeth ddi-lol ac adloniant gyda phopeth o ffeiliau gwybodaeth am iselder ac iechyd rhywiol i gemau a chwisiau.
NHS Uniongyrchol
I gael gwybodaeth a chyngor ar holl Faterion iechyd ewch i NHS Uniongyrchol Cymru neu NHS Uniongyrchol.
0845 46 47
Plant yn Gyntaf
Gwybodaeth feddygol i rai yn eu harddegau.
Her Iechyd Cymru
Cyngor ar wella iechyd a ffyniant.
Papyrus - Hopeline UK
Cyngor a gwybodaeth ymarferol i bawb sy’n bryderus y gall rhywun o’u cydnabod fod yn hunanladdol.
Llun - Gwener 7pm i 10pmSadwrn / Sul 2pm i 5pm
0870 170 4000 / 01978 367333
info@papyrus-uk.org