dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Tai

Pa un ai castell neu un ystafell, cartref ydi’ch lle eich hun, lle gallwch fod yn ddiogel a chysurus, a sail i’ch bywyd.

Cael hyd i a symud i’ch lle eich hun yw un o’r adegau mwyaf cyffrous yn eich bywyd, ac un sy’n rhoi’r straen fwyaf. Mae llawer o ddewisiadau –o rannu llety ar rent i brynu eich tŷ neu randy eich hun, a bydd beth a wnewch yn dibynnu ar eich sefyllfa ariannol.

Mae llawer o benderfyniadau i’w gwneud cyn i chi hyd yn oed ddechrau chwilio am rywle. Beth allwch chi fforddio o ran rhent neu forgais? Mae lleoliad yn bwysig – ydych chi eisiau bod yn agos at eich coleg neu weithle, yn agos at eich teulu, o fewn cyrraedd yn rhwydd i ysgol eich plant, yn agos at siopau ac amwynderau eraill, yn rhywle gyda mynediad da at gludiant cyhoeddus?

Neu ydych chi wedi mynd yn ddigartref am ryw reswm ac angen help i gael hyd i rywle i aros yn y byrdymor a hirdymor?

Bydd y cysylltiadau canlynol yn rhoi gwybodaeth ymarferol, yn eich helpu i edrych ar eich dewisiadau, a’ch arwain trwy broses gael hyd i a sefydlu eich cartref.

Cysylltiadau Lleol

INFO

Cymorth a chyngor ar bob math o faterion, gan gynnwys tai, i bobl ifanc.

Llun, Mercher a Gwener, 11.30am - 5.30pm
Mawrth ac Iau, 11.30am - 4.30pm

INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB.

01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk

Cyngor ar Bopeth (CAB)

Am gymorth gyda dyled, arian a chyllidebu. Mae CAB yn cynnig gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy a diweddar ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, cyflogaeth, dyled a materion defnyddwyr a chyfreithiol. Ymwelwch â’u gwefan neu ffonio i wneud trefniant mewn swyddfa leol.

Llun, Mawrth, Mercher, Gwener: 9.30am – 2pm

Cyngor ar Bopeth
35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT

01978 364639

Budd-dal Tai, Budd-dal Treth y Cyngor

Dydd Llun – Dydd Iau: 8.45 – 5.15
Gwener 8.45 – 4.45

Tai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

01978 292032

Partneriaeth Cwmpawd Barnardo

Elusen sy’n rhoi cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc.

Gwasanaeth Cyngor a Llety

Cefnogi pobl ifanc i wneud cais am gartref newydd.

Gwasanaeth Gadael Gofal

Mae’r prosiect hwn yn cefnogi pobl ifanc sydd yng ngofal yr awdurdod lleol fydd â hawl i wasanaeth y tîm gadael gofal. Mae hyn hefyd yn cynnwys pobl ifanc yn wreiddiol o Wrecsam ond a leolwyd allan o’r sir.

Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth

Mae’n cynnig cefnogaeth a chyngor ar nifer o faterion sy’n wynebu pobl ifanc. Bydd cefnogaeth yn cynnwys cyngor ar faterion tai, cyllidebu a rheoli annibyniaeth.

01978 315130
compass@barnardos.org.uk

Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam

Partneriaeth yw Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam rhwng Shelter Cymru a Cais yn anelu at roi sylw i faterion sy’n wynebu pobl ifanc digartref neu heb do uwch eu pennau yn ardal Wrecsam.

Prosiect Pobl Ifanc Wrecsam
65 Stryt y Brenin
Wrecsam

01978 314314

Cymorth i Ferched Wrecsam

Darparwr blaenllaw gwasanaethau ar gyfer merched agored i niwed a phlant sy’n dioddef camdriniaeth deuluol yng Nghymru. Maent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a llety mewn argyfwng.

Cymorth i Ferched Wrecsam
The Coach House
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EB

Llinell Gymorth: 01978 310203 (24 awr).
Ffacs: 01978 311190
womensaid@wrexham.connectfree.co.uk

Y Cyntedd (Cymdeithas Tai Clwyd Alun)

Hostel 19 gwely ar gyfer pobl ifanc 16 - 25 oed gydag anghenion cefnogaeth isel. Mae’n cynnig cefnogaeth efo hyfforddiant a byw’n.

Y Cyntedd
Ffordd y Cilgant
Wrecsam
LL13 8HF

01978 262222

Cymdeithas Tai Hafan

Mae prosiect merched ifanc Wrecsam yn darparu tai â chymorth i 6 o ferched ifanc 16 - 25 oed sy’n agored i niwed. Fe all y merched ifanc fod yn feichiog neu fod ag un plentyn dan flwydd oed.

Cymdeithas Tai Hafan
Stryd Fawr Rhiwabon
Wrecsam
LL14 6ND

01978 822579

Shelter Cymru

Mae Shelter Cymru’n cynnig gwasanaeth cyngor tai di-dâl yn Wrecsam. Mae’r gwasanaeth ar gael i bawb heb ystyried eu hamgylchiadau personol ac incwm. Mae’n cynnwys holl faterion cysylltiedig â thai gan gynnwys:

Sesiynau cynghori wythnosol trwy drefniant yng nghanol tref Wrecsam. Cyngor i’w gael dros y ffôn hefyd:-

01978 317911

Mae Shelter hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth am ddim, diduedd a chydgyfrinachol ar ddyledion gydag Achosion Dyled a Meddiannu Tai, o ran morgais a rhent.

Ffôn: 01978 317909
Symudol: 0796 680 5931
daves@sheltercymru.org.uk

Shelter Cymru
Blwch Post 2293
Wrecsam
LL11 0FB

01978 317911
wrexham@sheltercymru.org.uk

SHELTERLINE - Cyngor cydgyfrinachol di- ar dai bob dydd o 8am tan hanner nos: 0800 800 4444

WATCH

Cefnogaeth a chyngor parhaol am lety i ddynion digartref. Cyfeirio at asiantaethau cynorthwyo. Cefnogaeth ymarferol, cyllidebu a choginio.

WATCH
St John's House
Ffordd Caer
Wrecsam
LL12 7AX

01978 355155

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Adran Dai

Llun - Iau, 8.45 - 5.15
Gwener, 8.45 - 4.45

Adran Dai
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

01978 292032

Hawliau Lles CBSW

Yn darparu Gwasanaeth Hawliau Lles cynhwysfawr fel bod pobl ifanc yn gallu cael eu hawl gyflawn i fudd-daliadau lles.

I gael rhagor o wybodaeth gwelwch dudalennau hawliau lles Cyngor Wrecsam.

Uned Hawliau Lles (WRU)
Adeiladau Gladman
Unit 5 Llys Edison
Rhodfa Ellice
Wrecsam
LL13 7YZ

01978 298254

Cysylltiadau Cenedlaethol

Canllaw Online

Gwefan wybodaeth gendlaethol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.

Clic Ar-lein

Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

House Mate

Yn ateb cwestiynau pobl ifanc ynghylch bod yn ddigartref a thai.

Shelter Cymru

Yr elusen ddigartrefedd arweiniol yng Nghymru, sy’n helpu pobl ifanc gael hyd i dai diogel a fforddiadwy.

Gallwch hefyd siarad ag arbenigwyr tai a digartrefedd am ddim ac yn gydgyfrinachol ar ShelterLine ar 0808 800 4444 (8am - hanner nos bob dydd).

SaferHouses

Awgrymiadau a chyngor arbenigwyr ar ddiogelu’r cartref.