Y Gyfraith a Hawliau
Mae gennym i gyd yr hawl i fyw mewn amgylchedd diogel, sicr lle gallwn wireddu ein huchelgeisiau, ac mae gennym oll gyfrifoldeb i gynorthwyo creu’r amgylchedd hwnnw.
- Hawliau a Chyfrifoldebau
- Clywed Llais
- Cyfranogiad
- Cydraddoldeb
- Mynediad
- Diogelwch a Sicrwydd
- Dioddefwyr Trosedd
- Proses Gyfreithiol
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau i holl bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru gael yr un iawnderau neu hawliau (pethau a gewch / ddylai fod gennych / mae gennych hawl iddynt). Efo hawliau daw cyfrifoldebau – ar gyfer oedolion ac ar gyfer pobl ifanc. Mae’r Cynulliad yn meddwl y dylai pobl ifanc fod â hawl i gyfleoedd a dewis.
Cydraddoldeb
Yng Nghymru, ac yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig, mae deddfau yn erbyn anffafrio ar sail hil, rhyw, anabledd, statws priodasol, tueddfryd rhywiol neu oed.
Nod y deddfau hyn yw sicrhau eich bod yn cael breintiau cyfartal a’ch bod yn cael eich trin yn deg mewn mannau fel yr ysgol neu goleg a’r gweithle. Mae’r deddfau hyn hefyd yn diogelu eich hawliau i driniaeth gyfartal a theg pan fyddwch yn rhentu neu’n prynu eiddo, ac mewn sefyllfaoedd eraill.
Mae gennych gyfrifoldeb hefyd i gydymffurfio â’r deddfau hyn ac i drin pobl yn deg.
Hiliaeth
Hiliaeth yw cam-drin pobl oherwydd eu hil. Fe all ymosodiadau hiliol fod yn llafar a chorfforol. Mae hefyd yn drosedd i gam-drin rhywun neu ledaenu casineb hiliol yn ysgrifenedig. Mae pob math o hiliaeth yn gallu bod yn andwyol ofnadwy. Mae’n gallu gadael pobl yn teimlo’n ofnus iawn, alltud, yn cael eu bychanu ac yn ddig.
Mae’n bwysig cofio ein bod yn byw mewn cymdeithas amlddiwylliannol ac nad yw hiliaeth ond yn helpu i rannu cymunedau.
Os ydych yn dioddef neu wedi dioddef hiliaeth cysylltwch â gorsaf leol yr heddlu. Fel arall gallwch gael copi o Anffafrio ar Sail Hil - Eich Hawliau o’r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 3000 343.
Bwlio
Mae bwlio’n effeithio ar lawer o bobl ifanc a gall ei effeithiau bara’n hir. Mae llaweroedd o ffurfiau ar fwlio – llafar, corfforol, trwy negeseuon testun neu fel e-bost ar eich cyfrifiadur. Maent i gyd yn gas. Dewch i wybod mwy am sut y gallwch guro’r bwlïaid trwy gysylltu â’r sefydliadau isod:
- Childline on 0800 1111
- Bullying Ar-lein
- Kidscape
Bwlio Homoffobig
Gwefan os ydych yn cael eich bwlio am eich bod yn hoyw. Tynnu sylw at homoffobia mewn ysgolion.
Diogelwch y Rhyngrwyd
Mae’r rhyngrwyd yn wych ar gyfer cael hyd i wybodaeth, sgwrsio rhwng ffrindiau ac mae’n gallu rhoi llaweroedd o gyfleoedd i chi. Fodd bynnag fe all fod rhai peryglon wrth ei ddefnyddio, er enghraifft mae rhai pobl yn dweud celwydd ar wefannau rhwydwaith cymdeithasol. I’w deall hi’n llwyr a gwybod sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac ystafelloedd sgwrsio’n ddiogel ewch i:
Os ydych eisiau hysbysu unrhyw beth sy’n gwneud i chi deimlo’n annifyr, e.e. sgwrs ar-lein gyda rhywun yr ydych yn meddwl sy’n oedolyn pwy sy’n ceisio eich cyfarfod er mwyn rhyw, yna siarad â’ch rhiant / gwarcheidwad neu bobl y gallwch ymddiried ynddynt, neu gallwch fynd i thinkuknow.co.uk.
Os byddwch yn gweld unrhyw beth a feddyliwch sy’n anghyfreithlon fel delweddau o gam-drin plant neu unrhyw beth ynghylch casineb hiliol, eto siaradwch efo pobl y gallwch ymddiried ynddynt neu ymweld ag internet watch foundation.
Cysylltiadau Lleol
INFO
Cymorth a chyngor i bobl ifanc ar bob math o faterion gan gynnwys Y Gyfraith a Hawliau.
11.30am - 5.30pm. Llun, Mercher, Gwener,
11.30am - 4.30pm. Mawrth, Iau
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk
Heddlu Gogledd Cymru
0845 607 1001 (Cymraeg)
0845 607 1002 (Saesneg)
01978 290222 (Rhanbarth Wrecsam)
Amddiffyn Plant
Cyngor i blant a phobl ifanc.
Cymorth i Ddioddefwyr
Cymorth ymarferol annibynnol, am ddim a chydgyfrinachol, a chefnogaeth emosiynol i helpu dioddefwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau ymdopi â throsedd. Mae hefyd yn cefnogi tystion yn y llys.
01978 294605
Gwasanaeth Eiriol yr Ail Lais
Gwasanaeth eiriol ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed sy’n byw yn Wrecsam.
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
01978 358900
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
Gwasanaeth eiriol a hawliau plant a phobl ifanc yw hwn sy’n helpu’r rhai sy’n derbyn gwasanaethau’r Adran. Byddant yn helpu datrys eich problemau yn y ffordd orau a chyflymaf.
Os ydych yn anhapus gydag ateb a gawsoch gan eich Gweithiwr Cymdeithasol neu aelod o staff, bydd NYAS yn helpu i chi gwyno. Enw hyn yw eiriolaeth. Bydd yr eiriolwr yn siarad â chi, yn gweld beth ydych eisiau ei ddweud a bydd yn siarad ar eich rhan.
Swyddog Hawliau Plant
NYAS
84 Stryd Fawr
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1AW
Llinell Gymorth: 0800 616101
nyascymru@nyas.net
Cymorth i Fenywod Wrecsam
Darparwr blaenllaw gwasanaethau i ferched a phlant agored i niwed sy’n dioddef camdriniaeth deuluol yng Nghymru. Maent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a llety mewn argyfwng.
Llun - Gwener: 10am - 2pm.
Cymorth i Fenywod Wrecsam
The Coach House
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EB
01978 310203 (24 hours)
womensaid@wrexham.connectfree.co.uk
Cyngor ar Bopeth Wrecsam (CAB)
Am gymorth gyda dyled, arian a chyllidebu. Mae CAB yn cynnig gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy a diweddar ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, cyflogaeth, dyled a materion defnyddwyr a chyfreithiol. Ymwelwch â’u gwefan neu ffonio i wneud trefniant mewn swyddfa leol.
Llun, Mawrth, Mercher, Gwener: 9.30am – 2pm
Cyngor ar Bopeth Wrecsam35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT
01978 364639
Cysylltiadau Cenedlaethol
Clic Online
National youth information website funded by the Welsh Assembly Government (WAG).
Draig Ffynci
Funky Dragon – the Children and Young People's Assembly for Wales – is a peer-led organisation. Our aim is to give 0 – 25 year olds the opportunity to get their voices heard on issues that affect them. The opportunity to participate and be listened to is a fundamental right under the United Nations Convention Rights of the Child. Funky Dragon will try to represent as wide a range as possible and work with decision-makers to achieve change.
Comisiynydd Plant Cymru
Weithiau mae’r Comisiynydd Plant yn cael ei ddisgrifio fel cefnogwr plant a sefydliad hawliau dynol annibynnol i blant. Mae’r union beth mae Comisiynwyr Plant yn ei wneud, a sut maent yn ei wneud, yn amrywio o wlad i wlad – ond buddiannau plant a phobl ifanc syn bwysig iddynt yn y bôn.
Os byddwch yn meddwl nad yw eich hawliau - neu hawliau plant neu bobl ifanc yr ydych yn bryderus yn eu cylch - yn cael eu parchu, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Plant. Efallai y gallwn eich helpu - neu o leiaf eich cyfeirio at rywun sy’n gallu.
Comisiynydd Plant Cymru
Penrhos Manor
Oak Drive
Bae Colwyn
Conwy
LL29 7YW
01492 523333
Fax: 01492 523336
post@childcomwales.org.uk
Achub y Plant
Dylid gwrando ar farn pobl ifanc a’u cymryd o ddifrif. Os ydy’r sefyllfa sy’n wynebu miliynau o blant o gwmpas y byd yn eu gwylltio, yna rydym yn eu hannog i weithredu dros newid. Edrychwch ar ein tudalen ymgyrchwyr ifanc i gael syniadau a gwybodaeth i helpu pobl ifanc gael clywed eu lleisiau – mewn ysgolion, yn eu cymuned neu gan lywodraethau.
HeadsUp
Lle yw HeadsUp y gall pobl ifanc fynd iddo i drafod materion gwleidyddol a materion cyfoes. Ond mae’n fwy na dim ond siarad, mae ynghylch cael gwneud rhywbeth.
Cyngor Ieuenctid Prydain
Nod Cyngor Cenedlaethol Ieuenctid y DU yw cefnogi holl bobl ifanc yn y DU i arfer eu hawliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt a chael llais ar faterion sydd ganddynt farn gref yn eu cylch.
Liberty
Mae Liberty yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae ganddynt linell gymorth i gynorthwyo pobl sy’n dioddef o bob math o anffafriaeth. Mae’r gwasanaeth am ddim ac yn gydgyfrinachol. 020 7403 3888 Mae’n agor ar ddydd Llun a dydd Iau 6pm - 8pm a dydd Mercher 12.30pm - 2.30pm.
Britkid
Mae’r wefan hon yn ymwneud â ‘hil’ a hiliaeth. Y bwriad yw bod yn offer addysgol i’w ddefnyddio’n bennaf mewn ardaloedd lle nad yw pobl ifanc yn cysylltu’n aml â grwpiau ethnig lleiafrifol (er y bydd o ddiddordeb i bobl eraill hefyd yn ddiamau).
ChildLine
Llinell gymorth gydgyfrinachol ac am ddim ar gyfer pobl ifanc yn y DU yw ChildLine. Byddant yn trafod unrhyw broblemau sydd gan bobl ifanc.
Llinell gymorth: 0800 1111 (24 awr).