Arian
Mae’n hawdd cael benthyg arian – mae’n llawer anoddach ei dalu’n ôl.
Rhai pryderon mawr ynghylch arian yw:
- cyllidebu
- benthyciadau i fyfyrwyr
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
- beilïaid
- credyd treth
- cyflogau
- dyled
- budd-daliadau
- dirwyon
- CCJ (Dyfarniad Llys Sirol) a rhestri gwahardd
- A yw holl ddyled yn ddrwg?
Sut mae rhai pobl yn cael dillad dylunydd newydd o hyd, y gemau cyfrifiadur diweddaraf, ceir cyflym, gwyliau neu’n gallu fforddio mynd allan a mwynhau eu hunain lawer mwy nag y gallwch chi? Efallai mai’r ateb yw eu bod wedi cymryd benthyg arian i dalu am yr holl bethau hyn. Felly nid nhw sydd eu piau mewn gwirionedd ac maent, yn ôl pob tebyg, yn bryderus iawn ynghylch sut y gallant dalu amdanynt. Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth yn cael miloedd o ymholiadau bob dydd ynghylch problem dyledion.
Cyllidebu
Yr ateb i osgoi dyledion yw cyllidebu. Mae gan y bobl gyfoethocaf hyd yn oed gyllideb ar gyfer eu harian – wir i chi! Yn y bôn, rydych yn ysgrifennu i lawr pa arian sydd gennych yn dod i mewn, boed hynny’n arian poced, incwm o swydd neu fudd-daliadau.
Yna rydych yn ysgrifennu i lawr yr arian sy’n rhaid i chi dalu allan – nid am bethau yr hoffech eu cael, ond am bethau fel bwyd, tocynnau bws neu redeg car, rhent neu forgais, dillad sylfaenol ac ati. Adiwch faint sydd gennych i wario, ei dynnu o’ch incwm, ac fe welwch a oes gennych chi ddigon o arian i dalu am eich anghenion gwario sylfaenol.
Os nad oes gennych ddigon o arian, peidiwch â chynhyrfu! Gallwch edrych ar ffyrdd o dorri ar eich gwariant ac mae pobl sy’n gallu eich helpu os na allwch ddod i ben ar eich incwm presennol.
Os gwnewch y symiau a gweld bod gennych arian dros ben, gwych. Gallwch ddechrau cynilo ac ennill llog ar eich cynilion, fel bod gennych fwy fyth o arian, a byddwch yn gallu prynu’r pethau yr hoffech heb orfod mynd i ddyled.
I lawer o fyfyrwyr, mae’n amhosibl osgoi dyled, ond mae ffyrdd o’i lleihau ac o ennill arian tra byddwch yn astudio.
Benthyciadau Myfyrwyr
Os ydych yn bwriadu mynd ymlaen gyda’ch addysg yn y brifysgol gallwch fod â hawl i gymorth ariannol. Mae’r swm yn dibynnu ar eich cwrs, sefydliad ac incwm y cartref. Ond cofiwch, bydd angen talu’r swm a fenthycwyd yn ôl pan fyddwch yn dechrau ennill dros £15,000 y flwyddyn.
I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau i fyfyrwyr ymwelwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.
LCA
Cynllun yw LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) sy’n rhoi cymhelliad i bobl ifanc sydd am aros ym myd addysg ar ôl oedran gadael yr ysgol ennill gwobrau am bresenoldeb da a chyflawni amcanion a gytunwyd.
Gan ddibynnu ar incwm blynyddol eich aelwyd, gallech gael £10, £20 neu £30 bob wythnos. Mae hwn yn cael ei dalu bob pythefnos ac, felly, byddech yn cael £20, £40 neu £60 bob pythefnos.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Beilïaid
Beth yw beili?
Beili yw rhywun a awdurdodwyd i gasglu dyled ar ran credydwr. Credydwyr yw pobl sydd arnoch arian iddynt. Mae gwahanol fathau o feilïaid – e.e. beilïaid llys sirol, beilïaid tystysgrifedig a beilïaid preifat y mae modd eu defnyddio i gasglu gwahanol fathau o ddyledion. Mae’r rhain yn cynnwys Dyfarniadau Llys Sirol, Treth y Cyngor heb ei thalu, dirwyon llysoedd ynadon, cynhaliaeth heb ei thalu i’r Asiantaeth Cynnal Plant a rhent heb ei dalu.
I gael gwybodaeth am beth y gall ac na all beili ei wneud ymwelwch â Ymddiriedolaeth Cynghori ar Ddyled.
Credyd Treth
Taliadau gan y llywodraeth yw credydau treth. Os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu rywun ifanc sy’n byw gyda chi fel arfer, gallwch fod â hawl i Gredyd Treth Plant.
I gael gwybod mwy neu i weld a ydych yn gymwys i gael credydau treth cliciwch yma.
Cyflogau
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW) yw’r lleiafswm yr awr sydd gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU hawl i gael ei dalu.
Mae gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol pan fyddwch yn hŷn nag oedran gadael yr ysgol (rydych chi dan oedran gadael yr ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn troi 16). Yna bydd cyfradd yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed yn union.
Os ydych yn gwneud Prentisiaeth a than 19 oed, ni fydd gennych hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
I weld a ydych yn cael cyflog y cywir, cliciwch yma
Dyled
Os ydych dan 18, allwch chi ddim gwneud cais am gardiau credyd na chael gorddrafft ar eich cyfrif banc. Wedi dweud hynny, gallech fynd i ddyled mewn ffyrdd eraill, fel cymryd benthyg arian gan eich rhieni neu gyfeillion.
Beth bynnag eich oed neu faint bynnag yw eich dyled, mae’n bwysig deall sut mae dyled yn gallu cynyddu. Mae hefyd yn bwysig gwybod sut i ddelio â phroblem dyledion os byddwch yn wynebu hynny yn y dyfodol.
Yn aml bydd pobl sydd mewn dyled yn gwneud y camgymeriad o anwybyddu’r broblem a gobeithio y bydd yn diflannu. Yn anffodus wnaiff y broblem ddim diflannu os byddwch yn ei hanwybyddu, felly gorau po gyntaf y byddwch yn dechrau delio â’r broblem, i wneud pethau’n haws. Os yw eich sefyllfa ariannol mewn perygl o fynd yn ddifrifol, gwnewch rywbeth yn ei chylch heddiw.
Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud os ydych yn cael problemau ariannol yw anwybyddu’r sefyllfa. Yn aml bydd pobl yn tybio y byddant yn gallu talu eu dyled yn y dyfodol pan fyddant yn dechrau ennill mwy o arian.
Os ydych yn poeni y gallwch fod yn mynd i dyled, cysylltwch â’r Llinell Ddyled Genedlaethol neu’r Sefydliad Cynghori ar Ddyled i gael cyngor annibynnol a chydgyfrinachol am ddim.
Budd-daliadau
Efallai y bydd gennych hawl i fudd-daliadau os ydych ar incwm isel neu fod gennych gostau penodol i’w talu oherwydd eich sefyllfa bersonol.
Os yw unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol i chi:
- rydych yn derbyn incwm isel (mewn swydd neu’n chwilio am waith)
- mae gennych blant dibynnol
- rydych yn sâl neu anabl
- rydych yn gofalu am rywun
- rydych wedi cael profedigaeth
- rydych yn feichiog neu wedi cael baban yn ddiweddar
Gallwch weld a oes gennych hawl i gael cymorth ariannol neu gefnogaeth arall ewch i’ch Canolfan Waith leol neu ymwelwch â Direct Gov.
Dirwyon
Cosbau yw dirwyon sy’n cael eu rhoi gan y llysoedd am bob math o droseddau. Difrifoldeb y trosedd sy’n penderfynu faint yw’r ddirwy a gall fod yn unrhyw beth o £200 i £5,000 mewn Llys Ynadon (nid oes terfyn uchaf ar ddirwyon Llys y Goron).
Ar ôl cael hysbysiadau cosb benodedig, sy’n cael eu rhoi am droseddau llai difrifol fel goryrru, tocynnau parcio, triwantiaeth ac anhrefn cyhoeddus, gall llys eich cael yn euog o drosedd a’ch dirwyo, os na fyddwch yn talu cyn pen 14 diwrnod fel arfer ar ôl cael yr hysbysiad.
CCJs
Mae credydwyr (pobl neu gwmnïau sydd arnoch arian iddynt) yn gallu dwyn achos llys yn eich erbyn i geisio cael eu harian yn ôl, os ydynt yn credu eich bod wedi methu gwneud yr ad-daliadau a gytunwyd.
Fe fydd gwrandawiad syml yn y Llys Sirol, lle bydd y llys yn gwrando ar dystiolaeth o’r ddwy ochr. Nid ydych yn gorfod mynd i’r gwrandawiad yn bersonol er y bydd angen i chi lenwi ffurflen ymlaen llaw, naill ai’n derbyn neu’n dadlau’r symiau sy’n cael eu hawlio.
Hefyd bydd angen i chi roi manylion eich incwm a’ch gwariant i’r llys er mwyn iddo allu penderfynu faint allwch chi fforddio talu os yw’r llys yn penderfynu mai chi sy’n gyfrifol am y dyledion.
Os bydd y llys yn penderfynu fod arnoch chi’r arian, yna caiff gorchymyn llys ei wneud. Enw hyn yw Dyfarniad Llys Sirol (CCJ). Os na fyddwch chi a’r bobl sydd arnoch chi arian iddynt yn gallu cytuno ar swm allwch chi fforddio ei dalu’n ôl bob mis o fewn rheswm yna bydd y llys yn gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth a roddwyd gennych.
Bydd eich CCJ yn cael ei gofnodi ar gofrestr Dyfarniadau Llys Sirol am chwe blynedd os na fyddwch yn gallu talu swm llawn y dyfarniad cyn pen mis.
Bydd y rhai sy’n darparu credyd, fel banciau a chwmnïau benthyca, yn defnyddio’r gofrestr wrth benderfynu a ydynt am roi benthyg eu harian i chi neu beidio. Bydd yn fwy o fenter rhoi benthyg i bobl gydag un CCJ neu fwy nag i bobl sydd heb.
Rhestr wahardd
Rhestr gwahardd yw rhestr o bobl sy’n cael eu rhwystro rhag cael mynediad at rywbeth. Ym myd cyllid, rhestr wahardd yw term sy’n cael ei ddisgrifio am restr o bobl sydd â statws credyd gwael. Bydd banciau a chymdeithasau adeiladu’n defnyddio statws credyd i helpu iddynt benderfynu pwy ddylai ac na ddylai gael benthyg arian ganddynt. Mae’r sgôr credyd yn cynnwys nifer o ffactorau gan gynnwys cofnodion llys, manylion cyfeiriad a hanes talu.
Mewn gwirionedd, nid yw rhestri gwahardd yn bodoli mewn gwirionedd oherwydd bod gan bawb sy’n rhoi benthyg eu meini prawf eu hunain.
Felly, ydy holl ddyled yn beth drwg?
Nid oes y fath beth â dyled dda neu ddrwg, er y gall fod yn difrifol iawn os ydych yn cymryd benthyg mwy nag y gallwch fforddio ei dalu’n ôl. Gan ddibynnu ar y math o ddyled (ac i bwy mae arnoch yr arian), gallai hyn gynnwys cael eich gwneud yn fethdalwr, colli eich cartref ac efallai gael eich anfon i’w carchar hyd yn oed.
Dyna pam ei bod mor bwysig meddwl yn ddwys a fyddai’n well i chi gynilo yn lle benthyca. Os byddwch yn penderfynu eich bod eisiau benthyca, mae angen i chi sicrhau yn bendant y gallwch wneud yr ad-daliadau.
Gallai swnio’n beth hawdd ei wneud, ond beth os yw eich amgylchiadau’n newid yn annisgwyl:
- Beth pe byddech yn colli eich swydd neu’n mynd yn rhy sâl i weithio?
- Beth pe byddech chi neu eich partner yn mynd yn feichiog?
- Beth os yw’r swm sydd ei angen arnoch i fyw’n cynyddu gymaint fel nad oes gennych unrhyw arian dros ben i ad-dalu’ch dyledion?
Ni all neb ragweld y dyfodol, a dyna pam ei bod mor bwysig cofio ABC benthyca:
- Allwch chi Fforddio’r ad-daliadau heddiw ac, yr un mor bwysig, allech chi ddal i’w fforddio pe bai’r gwaethaf yn digwydd ac na fyddech yn gallu gweithio?
- Budd – Ydych chi’n wirioneddol ei angen neu ydych chi ond ei eisiau? Allwch chi fforddio aros? Bydd yn rhatach i chi yn y pen draw os byddwch yn cynilo yn lle gorfod talu llog.
- Canlyniadau – Oddi ar bwy ydych chi’n benthyca’r arian a beth yw’r gwaethaf allai ddigwydd os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau?
Cysylltiadau Lleol
Undeb Credyd Cynilwyr Ifanc Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae Undeb Credyd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithredu Cyfrif Cynilwyr Ifanc sy'n annog pobl ifanc i ymuno ag a datblygu arferiad cynilo. Bydd y Cyfrif Cynilwyr Ifanc yn helpu plant i ddatblygu eu sgiliau cynilo a thrin arian.
Undeb Credyd Cynilwyr Ifanc Bwrdeistref Sirol Wrecsam
1 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
01978 266843
info@wrexhamcu.co.uk
INFO
Amrywiaeth eang o wybodaeth leol a chenedlaethol ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys materion arian.
INFO2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB.
01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk
Cymorth Myfyrwyr Cyngor Wrecsam
Rydym yn gyfrifol am asesu cymhwyster a hawl holl fyfyrwyr sy’n byw fel arfer yn ardal yr Awdurdod ac sy’n mynd i Golegau a Phrifysgolion ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Ein prif ddiben yw sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth a chyngor sydd arnoch ei hangen i sicrhau bod eich addysg uwch mor ddihelbul ag y bo modd.
Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr16 Stryt Y Arglydd
Wrecsam
LL11 1LG
01978 297406
Ffacs: 01978 298707
student.support@wrexham.gov.uk
Cyngor ar Bopeth Wrecsam (CAB)
Am gymorth gyda dyled, arian a chyllidebu. Mae CAB yn cynnig gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy a diweddar ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, cyflogaeth, dyled a materion defnyddwyr a chyfreithiol. Ymwelwch â’u gwefan neu ffonio i wneud trefniant mewn swyddfa leol.
Llun, Mawrth, Mercher, Gwener: 9.30am – 2pm
I gael rhagor o wybodaeth am CAB ym mhentrefi Cyngor Wrecsam, cysylltwch â CAB yn Wrecsam
Cyngor ar Bopeth Wrecsam35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT
01978 364639
Dewisiadau Pobl Ifanc
Cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i bobl ifanc. Un i un neu sesiynau grŵp. Allgymorth a gwasanaeth galw heibio.
Dewisiadau Pobl Ifanc
NACRO Wrecsam
35 Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8AH
01978 314313
Hawliau Lles CBSW
Yn darparu Gwasanaeth Hawliau Lles cynhwysfawr fel bod pobl ifanc yn gallu cael eu hawl gyflawn i Fudd-daliadau Lles. Ffoniwch y rhif isod i gael rhagor o wybodaeth.
Hawliau Lles CBSW
Adeiladau Gladman
Unit 5 Llys Edison
Wrecsam
01978 298254
Canolfan Byd Gwaith Wrecsam
Cyngor a gwybodaeth ar ba swyddi sydd ar gael a sut i hawlio budd-dal.
Canolfan Byd Gwaith Wrexham
Tŷ Maelor
15 - 17 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BW.
01978 316500
Ffôn Testun: 01978 316536
Canolfan Gynghori Cymuned Parc Caia
Ar gael i drigolion Parc Caia yn unig
Caiff cyngor ei roi ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys lwfans gweini, lwfans gofalwyr, grantiau elusen, budd-dal plant, credyd treth plant / credyd treth gwaith, treth y cyngor, lwfans byw i bobl anabl, budd-dal tai, budd-dal analluogrwydd, cymhorthdal incwm / credyd pensiwn, yswiriant, cronfa gymdeithasol, grant mamolaeth cychwyn cadarn a tholl ecseis cerbyd.Cysylltwch â 01978 354825 am amserau agor.
Safonau Masnachu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae’r Gwasanaeth yn bodoli er lles defnyddwyr a busnesau yn ardal Wrecsam. Ein nod yw sicrhau amgylchedd masnachu teg a diogel a hyrwyddo Iechyd a Lles Anifeiliaid. Gwnawn hyn trwy orfodi’r gyfraith, rhoi cyngor ac addysg.
Mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn rhoi cyngor i ddefnyddwyr.
8.00am - 6.30pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9.00am - 1.00pm dydd Sadwrn ac eithrio Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc.
08454 04 05 06 (galwadau lleol)www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk/contact
Cysylltiadau Cenedlaethol
Clic Online
Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).
National Debtline
Y llinell gymorth sy’n rhoi cyngor cydgyfrinachol ac annibynnol di-dâl ar sut i ddelio â phroblem dyledion.
0808 808 4000
BBC Un Bywyd - Arian
Y wefan sy’n dweud wrthych beth yw beth, boed hynny’n brynu car neu’n ddyled!
Cyngor ar Bopeth
Gwybodaeth am arian a hawliau defnyddwyr ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Cyllid Myfyrwyr Cymru
Mae’r wefan hon yn darparu gwasanaethau ar-lein a gwybodaeth i’r rhai yng Nghymru gyda diddordeb yn y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr yn dilyn addysg uwch.
Gamblers Anonymous (UK)
Cymdeithas o ddynion a merched yw Gamblers Anonymous sydd wedi ymuno i wneud rhywbeth ynghylch eu problem gamblo eu hunain a helpu gamblwyr cymhellol eraill wneud yr un fath.
0161 976 5000
Need 2 Know
Arweiniad cynhwysfawr i arian a chyllid i bobl ifanc.
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr
Manylion Benthyciadau Myfyrwyr i’r bobl hynny ar Gwrs Addysg Uwch.
0845 6028845
Entitled To
Cyfrifianellau am ddim i helpu i chi gyfrif eich hawl i fudd-daliadau a chredydau treth.
Money Saving Expert
Gwybodaeth am bob agwedd ar arian o gynilion i forgeisi a Grantiau AU.
YouthNet UK
Cadw o fewn y gyfraith, arian yn eich poced, a tho uwch eich pen ac unrhyw beth y bydd angen i chi wybod!
TheSite.org
Mae TheSite.org ar gyfer pobl ifanc pan fyddant angen cefnogaeth a chyfarwyddyd.
Consumer Credit Counselling Service (CCCS)
Elusen gofrestredig i’ch helpu gyda phroblem dyledion.
Budd-dal Tai / Budd-dal Treth y Cyngor
I gael gwybodaeth gwelwch adran Tai gwefan y Cyngor.
Y Samariaid
Cefnogaeth a chyngor di-dâl a chydgyfrinachol ar unrhyw fater. Mae’r Samariaid yn rhoi cefnogaeth anfarnol gydgyfrinachol, 24 awr y dydd i bobl sydd â theimladau o drallod neu anobaith, gan gynnwys y rhai allai arwain at hunanladdiad.
08457 90 90 90 / jo@samaritans.org