Cysylltiadau a Theulu
Pobl eraill – dyna beth sy’n gwneud bywyd mor dda, ond weithiau maent yn gwneud bywyd mor ddrwg.
Mae pryderon yn cynnwys:
- Mabwysiadu
- Bod mewn gofal
- Gwasanaethau Cefnogi
- Dadleuon
- Profedigaeth (Rhywun agos atoch wedi marw)
- Bwlio
- Ffrindiau
- Rhywioldeb
- Teuluoedd
- Cariad a Rhyw
- Cysylltiadau Treisiol
- Beichiogrwydd
Mae adegau pan fydd rhai pobl yn mynd ar eich nerfau. Mae adegau pan ydych yn hoffi rhywun, ond heb fod yn sicr a ydynt yn eich hoffi chi. Mae adegau pan fyddwch yn meddwl bod eich rhieni’n dod o wahanol blaned. Fel yna mae hi.
Ond mae adegau eraill pan fydd pethau’n fwy difrifol. Rydych yn ddryslyd ac yn bryderus ac mae’n gwneud bywyd yn anodd. Peidiwch â phoeni oherwydd bod help allan yna. Peidiwch â meddwl bod eich problem yn rhy ddibwys, neu na fydd neb yn deall. Edrychwch ar y gwefannau hyn neu ffoniwch linell gymorth. Mae pobl yn aros i roi’r cymorth sydd arnoch ei angen i ddod trwy’r amseroedd dyrys.Cysylltiadau Lleol
Cadw’n Ddiogel - Amddiffyn Plant
Mae gennych hawl i fod yn ddiogel ac yn rhydd o ofn cael eich brifo neu gam-drin mewn unrhyw ffordd.
Dyma un o’ch 10 hawl.
Os ydych chi neu rywun a wyddoch, fel ffrind neu rywun arall yn eich teulu, yn cael ei frifo neu gam drin gallwch gael help i wneud iddo stopio. Ewch i Cyngor i Blant a Phobl Ifanc.
Os yw oedolyn gartref yn cael ei frifo gallwch siarad ag unrhyw o’r bobl sy’n cael eu henwi ar y dudalen gyngor. Neu gallwch edrych ar dudalen trais teuluol Cyngor Wrecsam sy’n rhoi cyngor i bawb sy’n ymwneud â thrais teuluol.
Gallwch hefyd siarad yn gydgyfrinachol efo rhywun ar ChildLine neu’r Samariaid.ISIS
ISIS yw grŵp ieuenctid LGBTQ Wrecsam (Lesbiad Hoywon Deuryw Trawsrywiol ac Amheus) sy’n cael ei redeg gan ac ar ran pobl ifanc. Nod ISIS yw darparu grŵp cefnogi dan arweiniad cyfoedion i nodi a rhoi sylw i anghenion pobl ifanc LGBTQ hyd at 25 oed ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r grŵp hwn yn agored i bawb pa un ai ydynt yn gyfunrywiol, deurywiol, trawsrywiol, amheus a gwahanrywiol.
Mae rhai o amcanion ISIS yn cynnwys creu awyrgylch diogel a chyfeillgar a chanolfan alw heibio ar gyfer pobl ifanc i gyfarfod a sgwrsio a chreu cyfeillgarwch, gweithredu fel dolen gyswllt rhwng sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd eisiau neu sydd yn darparu gwasanaethau i bobl ifanc LGBTQ ac i ddarparu llwyfan i nodi a hyrwyddo anghenion pobl ifanc LGBTQ a datblygu gwasanaethau heddiw ac yn y dyfodol.
Mae ISIS yn rhedeg galw heibio yng Nghanolfan Ieuenctid y Vic ar nos Fawrth 6:30pm - 9:00pmGrŵp Cefnogi Ymddygiadol ADHD
Boreau coffi ar gyfer rhieni / gofalwyr plant a phobl ifanc gydag ADHD a phroblemau ymddygiad. Hyfforddi ymwybyddiaeth o ADHD a phroblemau ymddygiad. Tripiau undydd ar gyfer yr holl deuluoedd. Cefnogaeth un i un a chyfeirio at asiantaethau eraill.
Grŵp Cefnogi Ymddygiadol ADHD
Ffordd y Tywysog Siarl
Wrecsam
LL13 9DL
01978 310984
Call Helpline
Llinell gymorth iechyd meddwl yn cynnig cefnogaeth, cyngor ymarferol a gwybodaeth am wasanaethau statudol a gwirfoddol sydd ar gael yn y cylch. Rydym hefyd yn darparu deunydd darllen hunangymorth am ddim i rai sy’n galw. Dim cyfyngiadau oedran.
Call HelplinePomano
Ffordd y Llwyni
Wrecsam
LL11 1DY
01978 366206
Dynamic
Grŵp hamdden, adloniadol, addysgol a gweithgaredd cymdeithasol allan o’r ysgol. Gwaith un i un ar gyfer pobl anabl. Rhaglen haf a chynllun gwawr yn ystod gwyliau haf.
DynamicTŷ Bradbury
23 Ffordd Salisbury
Wrecsam
LL14 1PR
01978 263656
wrexhamdynamic@yahoo.co.uk
Cychwyn Cadarn
Cymorth ychwanegol i ferched beichiog yn eu harddegau, yn darparu crefft bod yn rhiant, cyngor cyn geni, cyngor budd-daliadau a chyfeirio at wasanaethau priodol.
Cychwyn Cadarn
53 Bodlyn
Plas Madoc
Wrexham
LL13 3HE
01978 823706
FPA Project Jiwsi
Rhaglenni addysg gymunedol am ryw a pherthynas ar gyfer grwpiau o bobl ifanc glwyfadwy. Mae cangen hefyd yn Wrecsam yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai. Cysylltwch â Sandra Peters ar 01978 853111.
FPA
Greenhouse
1 Trevelyan Terrace
Bangor
Gwynedd
LL57 1AX
Project Genesis Cymru Wales
Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd. Gofal plant am ddim neu noddedig fel bod rhieni di-waith yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a gwaith. Mae cyfleoedd cyrsiau am ddim i’w cael ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant.
Genesis Cymru Wales
Swyddfa Wybodaeth Blant
Canolfan Celfyddydau Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU
01978 292094
cib@wrexham.gov.uk
INFO
Amrywiaeth eang o wybodaeth leol a chenedlaethol ar gyfer pobl ifanc, gan gynnwys materion teulu a pherthynas. Clinig iechyd rhywiol, gwasanaeth cynghori Outside In a Gwasanaeth Eiriol Ail Lais.
INFO2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB.
Phone: 01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk
Tîm Gwiath Ieuenctid Ysbyty Inspire
Gweithio gyda phobl ifanc yn yr ysbyty sydd â materion hunan-niweidio. Cefnogi gwaith ieuenctid ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty. Un i un a gwaith grŵp.
Tîm Gwiath Ieuenctid Ysbyty Inspire
Canolfan Iechyd Plant
Blwch Post 2073
Ysbyty Maelor Wrecsam
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
Ll13 7ZA
01978 726002
inspire@wrexham.gov.uk
Longfields
Gwasanaeth therapiwtig i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi dioddef trawma.
Longfields
11 Ffordd Sonlli
Wrecsam
LL13 7EN
01978 264040
longfields@nch.org.uk
Y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol (Cangen Wrecsam)
Rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i rieni a gofalwyr neu unigolion gydag Awtistiaeth / Syndrom Asperger. Cangen o’r Gymdeithas Awtistig Genedlaethol.
Swyddog Cangen Wrecsam: 01978 364377rayandjudi@hotmail.com
NEWCIS (Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru)
Gwasanaeth gwybodaeth a chefnogaeth yw NEWCIS ar gyfer gofalwyr ac sy’n gallu cyfeirio gofalwyr at asiantaethau priodol, fel Hawliau Lles.
NEWCIS9a Llys Edison
Rhodfa Ellice
Parc Technoleg Wrecsam
Wrecsam
LL13 7YT
01978 310414
newcisoffice@btconnect.com
NSPCC
Gwasanaeth cynghori mewn ysgolion uwchradd. Diwrnodau iechyd, hyfforddiant cefnogi cyfoedion, amser cylch, cadw’n ddiogel, amddiffyn plant a hyfforddiant ymwybyddiaeth bwlio.
NSPCC
Uned A
Pentref Busnes Iâl
Rhodfa Ellice
Wrecsam
LL13 7YT
01978 362383
wrexham@nspcc.org.uk
Gwasanaeth Cynghori Outside In
Open access counselling service for young people 11 - 25. Ring or drop in to make appointment or request a referral form.
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
Cynghori Teuluoedd Relate (Wrecsam)
Cynghori teuluol yn cynnig gwasanaeth cydgyfrinachol. Yn anelu at bawb sy’n ei chael yn anodd cyfathrebu. h.y. cysylltiadau, cyfeillgarwch, problemau yn yr ysgol. Teuluoedd yn ymdopi â gwahanu / ysgariad, cysylltiadau newydd / ailbriodi. Problemau teuluoedd estynedig.
Relate Gogledd Cymru59 Stryt y Brenin
Wrecsam
LL11 5HR
01978 314763
jacky@relatenorthwales.co.uk
Release
Mae Release yn cynnig cefnogaeth mewn profedigaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd. Cyngor a chefnogaeth i rieni / gofalwyr / gweithwyr proffesiynol sy’n cynnal pobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth. Addysg ar: plant a galar ar gyfer holl asiantaethau â diddordeb.
Release
Hosbis Tŷ’r Eos
Ffordd Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
01978 316800
Second Voice Advocacy Service
Eiriol dros bobl ifanc 11 i 25 oed sy’n byw yn Wrecsam.
INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
01978 358900
MIND Wrecsam
Cynghori, gwasanaeth tai â chymorth, grwpiau therapi, hysbysrwydd ac addysg gyhoeddus, grwpiau hunangymorth
MIND WrecsamLlawr Uchaf
8 – 10 Stryt y Priordy
Wrecsam
LL11 1SU
01978 366155
Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Wrecsam
Ar gyfer cynorthwyo pobl sy’n cael eu dadleoli oherwydd ymladd, erledigaeth, gorthrwm, anffafriaeth, trychinebau naturiol neu achosion eraill tebyg. Pobl ifanc, teuluoedd a dibynyddion sydd dan amgylchiadau angen, caledi a gofid. Er cynnydd eu haddysg. Darparu cyfleusterau adloniant a gweithgareddau / galwedigaethau eraill amser hamdden, er mwyn lles cymdeithasol fel ag i wella eu hamodau bywyd.
Grŵp Cefnogi Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches WrecsamTŷ’r Drindod
Stryd y Drindod
Wrecsam
LL11 1NL
01978 357826
Cymorth i Fenywod Wrecsam
Darparwr blaenllaw gwasanaethau i ferched a phlant agored i niwed sy’n dioddef camdriniaeth deuluol yng Nghymru. Maent yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a llety mewn argyfwng.
Llun - Gwener: 10am - 2pm.
Cymorth i Fenywod WrecsamThe Coach House
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EB
01978 310203 (open 24 hours).
womensaid@wrexham.connectfree.co.uk
Gofalwyr Ifanc Wrecsam
Mae’n cefnogi gofalwyr ifanc o ganlyniad i anabledd neu broblemau iechyd y meddwl. Darparu gofal o fewn eu teuluoedd eu hunain i rieni / gofalwyr neu frodyr a chwiorydd. Grŵp bob pythefnos ar sail profiadau a 4 o grwpiau ar sail oed. Yn darparu gwasanaeth allgymorth. Mae gofalwyr ifanc yn cael cyfle o seibiant byr bob blwyddyn. Nifer o ofalwyr ifanc yn mynychu gwyliau gofalwyr ifanc yn ystod y flwyddyn sy’n caniatáu iddynt ryngweithio gyda gofalwyr ifanc eraill.
Gofalwyr Ifanc WrecsamLongfields
11 Ffordd Sonlli
Wrecsam
LL13 7EN
01978 264040
Cyngor ar Bopeth Wrecsam
Mae CAB yn cynnig gwybodaeth ymarferol, ddibynadwy a diweddar ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, cyflogaeth, dyled a materion defnyddwyr a chyfreithiol. Ymwelwch â’u gwefan neu ffonio i wneud trefniant mewn swyddfa leol.
Llun, Mawrth, Mercher, Gwener: 9.30am – 2pm
I gael rhagor o wybodaeth am CAB ym mhentrefi Cyngor Wrecsam, cysylltwch â CAB yn Wrecsam
Cyngor ar Bopeth Wrecsam35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT
01978 364639
Home Start (Wrecsam)
Mudiad gwirfoddol sy’n cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymorth ymarferol yn gydgyfrinachol ac am ddim i deuluoedd, gan gynnwys unig rieni, sydd ag o leiaf un plentyn dan bump oed. Mae’r gwasanaeth yn darparu ymweliadau â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain i gynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a chymorth ymarferol, cyfarfodydd grwpiau cefnogi teuluoedd a thripiau ac achlysuron cymdeithasol achlysurol.
Home StartByddin yr Iachawdwriaeth
Ffordd yr Ardd
Rhosddu
Wrecsam
LL11 4NU
Ffôn: 01978 366660
Ffacs: 01978 365965
homestartcbw@lineone.net
Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru
Provides emotional and practical support and information to anyone affected by crime.
Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd CymruTŷ'r Binwydden
Jasmine Crescent
Ffordd Clayton
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1ST
01352 751538
fvss@aol.com
Cysylltiadau Cenedlaethol
Canllaw Online
Gwefan wybodaeth gendlaethol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Clic Ar-lein
Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).
Llinell Gymorth Camdriniaeth Deuluol
Llinell Gymorth Camdriniaeth Deuluol Cymru yw’r gwasanaeth cenedlaethol cefnogaeth a gwybodaeth am ddim i ferched, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef camdriniaeth dan ddwylo rhywun sy’n agos atynt.
0808 80 10 800 (24 awr)
ChildLine
Llinell gymorth gydgyfrinachol ac am ddim ar gyfer pobl ifanc yn y DU yw ChildLine. Byddant yn trafod unrhyw broblemau sydd gan bobl ifanc.
Llinell gymorth: 0800 1111 (24 awr).RD4U
Gwefan yw RD4U (Y Ffordd i Chi) a ddatblygodd Prosiect Cyfranogiad Pobl Ifanc Gofal Profedigaeth Cruse sy’n anelu at gefnogi pobl ifanc ar ôl marwolaeth rhywun sy’n agos atynt. Grŵp o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd wedi cael profedigaeth yw Tîm Datblygu RD4U. Llinell gymorth, cynghori, cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc.
0808 8081677
Llun - Gwener: 9.30am - 5pm.