dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Gwirfoddoli

Pan rydych chi’n gwirfoddoli nid pobl eraill yn unig yr ydych chi’n eu helpu – rydych chi’n helpu’ch hunan.

Pam wirfoddoli?

Mae gwirfoddoli’n ymwneud â rhoi eich amser i wneud rhywbeth defnyddiol, heb gael cyflog. Yn gyfnewid fe gewch foddhad wrth dreulio amser ac ymdrech yn werthfawr.

Mae’r dewis cyfleoedd yn anferth. Mae gennym bopeth o brosiectau amgylcheddol, mentora, helpu mewn clybiau cinio i hyfforddi chwaraeon, beth bynnag eich diddordeb a pha sgiliau a phrofiad bynnag sydd gennych, mae rhywbeth y gallwch ei wneud.

Os ydych rhwng 16 a 24 oed gallwch ymuno â Gwirfoddolwyr y Mileniwm, sy’n gynllun dros y DU gyfan a luniwyd i hyrwyddo a chydnabod gwirfoddoli ymysg pobl ifanc 16-24 oed.

10 rheswm pam y dylech feddwl am wirfoddoli

Mae gan bawb resymau dros wirfoddoli! Dyma’r 10 rheswm uchaf dros godi oddi ar eich tin a gwirfoddoli:

  1. Profiadau newydd o fewn eich cymuned!
  2. Cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
  3. Gallwch ddatblygu sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith
  4. Gwella eich rhagolygon gwaith
  5. Agor cyfleoedd a heriau newydd
  6. Mae gwirfoddoli’n hwyl, yn gyffrous ac yn foddhaus
  7. Mae gwirfoddoli’n edrych yn wych ar eich Braslun Gyrfa
  8. Mae gwirfoddoli’n meithrin eich hyder
  9. Gall ddylanwadu ar eich dewis gyrfa
  10. Mae’n well na gwneud dim!

Sut mae cael hyd i fwy am wirfoddoli?

I gael gwybodaeth a chyngor cyffredinol ynghylch gwirfoddoli yn Wrecsam, eich cyswllt cyntaf ddylai fod y staff yng Nghanolfan Gwirfoddolwyr Wrecsam, fydd yn gallu eich helpu i gael hyd i gyfle sy’n iawn i chi.

Gallwch hefyd gael copi o ‘Arweiniad Pobl Ifanc i Wirfoddoli’ yng Nghanolfan Wirfoddolwyr Wrecsam, sy’n rhoi gwybodaeth am yr holl gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a’r cylch. Mae’n arweiniad defnyddiol i edrych arno os nad ydych yn sicr beth allai fod o ddiddordeb.

Neu fel arall ymwelwch â www.gwirfoddolicymru.net/ sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r holl Ganolfannau Gwirfoddolwr yng Nghymru ac sy’n rhoi cyfle i chi weld beth sydd ar gael yn ôl lle neu faes diddordeb, ac fe allwch i gofrestru eich manylion yn eich Canolfan Wirfoddolwyr agosaf.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn am ‘Arweiniad Pobl Ifanc i Wirfoddoli’ cysylltwch â Chanolfan Gwirfoddolwyr Wrecsam yn:

AVOW
21 Egerton Street
Wrecsam
LL11 1ND

01978 312556
vb@avow.org

Cysylltiadau Cenedlaethol

Clic Ar-lein

Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

WCVA

CGGC yw llais y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n cynrychioli ac yn ymgyrchu dros gyrff a mudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau.

Gwasanaeth Gwirfoddol Tramor (VSO)

Ydych chi rhwng 18 a 25 oed gyda diddordeb mewn gwirfoddoli dramor? Ydych chi eisiau cynyddu ymwybyddiaeth o faterion datblygu? Ydych chi eisiau gwneud rhywbeth buddiol, ymarferol a pherthnasol?