dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Gwaith a Hyfforddiant

Mae gwaith yn fwy na dim ond ennill arian – mae ynghylch dysgu, cyfarfod pobl, cael hyder, creu cyfleoedd newydd, dod i wybod am fywyd, cyfrannu at y gymuned leol neu’r byd o’n cwmpas. Mae’n antur!

Dyma ychydig o bethau y gallwch fod â chwestiynau yn eu cylch:

Mae rhai ohonom yn gwybod yn union beth ydym eisiau bod, ac mae rhai ohonom heb syniad. Bydd rhai ohonom yn dechrau ar swydd ac yna’n sylweddoli y byddem yn hoffi gwneud rhywbeth hollol wahanol. Mae rhai ohonom yn gorfod rhoi’r gorau i waith am ychydig, ac yna’n pendroni ynghylch sut i fynd yn ôl i’r gweithle.

Allwch chi ddim dechrau gwaith llawn-amser nes i chi gyrraedd oedran swyddogol gadael yr ysgol sef 16. Gallwch wneud peth gwaith am gyflog, fel dosbarthu papurau, pan fyddwch yn 13, ond mae angen i chi weld beth yw’r gyfraith a’r rheoliadau lleol yn gyntaf.

Mae gwneud gwaith gwirfoddol yn ffordd dda o gael profiad, cymryd rhan mewn rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau neu’n credu ynddo, a theithio’r byd hyd yn oed.

Os oes gennych ymrwymiadau sy’n cyfyngu ar nifer yr oriau neu’r adegau y gallwch weithio, yna mae dewisiadau gwaith yn dal ar gael i chi. Os oes gennych anabledd, yna mae help ar gael er mwyn i chi allu cael eich cyfle yn y gweithle. Os rydych yn Richard Branson eginol, yna mae digonedd o gyngor a chefnogaeth i’ch rhoi ar ben ffordd www.businesslink.gov.uk/bdotg/action/layer?topicId=1073858805

Hyfforddiant a Phrentisiaethau

Hyfforddiant

Pa un ai ydych yn chwilio am waith neu geisio dod ymlaen yn eich gyrfa, gall gwella eich sgiliau ar gyfer gwaith agor cyfleoedd newydd. Mae dewis enfawr o gyrsiau ar gael. Mae rhai am ddim, a gallwch fod â hawl i gymorth ariannol. Hefyd mae digonedd o gyngor am ddim i helpu i chi benderfynu beth sy’n iawn i chi.

Ar ba gyfnod bynnag o’ch bywyd yr ydych, gallai dysgu sgiliau newydd wella eich gobeithion gyrfa. Dyma rai cysylltiadau lleol i roi hwb i chi.

ITeC Wrecsam

Mae ITeC Wrecsam, sy’n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cynnig lleoliad a hyfforddiant mewn dewis o swyddi a hyfforddiaethau TG, busnes a gweinyddu a gwasanaethu cwsmeriaid.

ITeC Wrecsam
Uned 19
Stad Ddiwydiannol Whitegate
Wrecsam
LL13 8UG

01978 367100
01978 367111
wrexhamitec@wrexham.gov.uk

Coleg Iâl

Coleg trydyddol yw Coleg Iâl, yn darparu addysg a hyfforddiant i’r rhan fwyaf o rai ôl–16 yn y cylch a llawer o gyrsiau byr rhan-amser.

Coleg Iâl
Ffordd Parc y Llwyni
Wrecsam
LL12 7AB

01978 311794
Ffôn testun: 01978 316489 (i’r rhai gydag anawsterau clywed)
admissions@yale-wrexham.ac.uk

Drome

Mae Drome yn cynnig cyrsiau am ddim yn Wrecsam yn ystod y dydd ar gyfer oedolion sydd eisiau dychwelyd i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, datblygu sgiliau newydd, cael hyd i ddiddordebau newydd, neu sydd eisiau cael gwybod am gyfleoedd eraill ac edrych ar gyfeiriadau newydd.

Drome
Coleg Iâl
Ffordd Parc y Llwyni
Wrecsam
LL12 7AB

01978 311794
Ffôn testun: 01978 316489 (i’r rhai gydag anawsterau clywed)
emr@yale-wrexham.ac.uk

Prentisiaethau

Os oes gennych syniad da o ble rydych eisiau mynd gyda’ch gyrfa ac yn hoffi’r syniad o ennill arian tra byddwch yn dysgu, gallai Prentisiaeth fod y peth i chi. Mae’n gwarantu hyfforddiant i chi, ond mae’n gadael i chi ddatblygu sgiliau a chael cymwysterau tra’r ydych yn gweithio.

Prentisiaeth – Ennill wrth ddysgu

I roi’r cyfle gorau o lwyddiant yn eich gyrfa i chi eich hun y, bydd angen i chi ddal i ddatblygu eich sgiliau drwy gydol eich bywyd gwaith. Mae prentisiaethau’n rhoi cyfle i chi ddysgu – a chael cymwysterau sy’n cael eu cydnabod ledled y wlad – wrth gael cyflog wythnosol.

Mae’r prentisiaethau sydd ar gael yn cynnwys gofalu, gweinyddu busnes, adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu a llawer mwy.

A yw Prentisiaeth yn iawn i chi?

Yn gyntaf bydd angen i chi benderfynu pa fath o waith yr ydych eisiau ei wneud. Nesaf, byddwch yn gorfod meddwl a allwch chi ymrwymo i Brentisiaeth. Mae hyn yn golygu jyglo gwaith ac astudiaeth hirdymor – cyfnod o un i bum mlynedd.

Pwy sy’n Gallu Gwneud Cais

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i’r rhan fwyaf o Brentisiaethau. Fodd bynnag fel arfer bydd angen i chi fod â phedair neu bump TGAU gradd C neu uwch.

I helpu i chi gael hyd i brentisiaeth sy’n iawn ar eich cyfer dyma rai cysylltiadau lleol.

Gyrfa Cymru Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Gyrfa Cymru’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd i bobl o bob oed mewn ysgolion a thrwy eu Siop Yrfaoedd yn Wrecsam.

Siop Yrfaoedd Wrecsam
Tŷ Egerton
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EQ

01978 317015
enquiries@cwne.org

Canolfan Byd Gwaith

Un o asiantaethau’r llywodraeth yw Canolfan Byd Gwaith sy’n cefnogi pobl oed gwaith. Mae’n rhoi cymorth a chyngor ar swyddi a hyfforddiant i bobl sy’n gallu gweithio a chymorth ariannol i’r rhai na all.

Canolfan Byd Gwaith
Tŷ Maelor
15–17 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BW

01978 316500

Porth Ieuenctid

Os ydych yn chwilio am waith, coleg neu gwrs hyfforddiant, ac eisiau help, gall Porth Ieuenctid eich cynorthwyo. Gwasanaeth yw Porth Ieuenctid sy’n cael ei weithredu gan Gyrfa Cymru ar gyfer pobl ifanc.

Porth Ieuenctid
Siop Yrfaoedd Wrecsam
Tŷ Egerton
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EQ

01978 317015
enquiries@cwne.org

Cael Swydd

Mae dewis llwybr gyrfa ar ôl gorffen addysg yn golygu meddwl llawer mwy am y swydd ei hun. Mae swyddi’n fwy hyblyg nag erioed ac mae diwrnod gwaith nodweddiadol wedi darfod amdano.

Gall dechrau am 9.00am, gorffen am 5.00pm gydag awr i ginio rhywle yn y canol ddal i gael ei ystyried yn ddiwrnod gwaith ond, i fwy a mwy o bobl, nid dyma’r gwirionedd. Mae rhai swyddi, fel nyrsio neu weithgynhyrchu, yn dibynnu ar ddefnyddio patrymau sifftiau, sy’n golygu gweithio yn ystod y nos a phen bore. Bydd rhai swyddi yn yr awyr agored, bydd rhai mewn swyddfa, bydd rhai mewn gweithdy neu amgylchedd diwydiannol a bydd rhai’n gofyn mwy’n gorfforol nag eraill.

Pan fyddwch yn gwneud cais am swydd neu’n cynllunio gyrfa, gall fod yn werth meddwl am ba fath o amgylchedd y byddwch yn gweithio orau ynddo ac a oes gennych ymrwymiadau neu gyfrifoldebau eraill a allai eich atal rhag gweithio gwahanol oriau. Bydd hyn yn sicrhau bod eich amserlen waith yn cyd-fynd â gweddill eich bywyd.

Dyma rai manylion cysylltu lleol i helpu i chi gael hyd i swydd:

Gyrfa Cymru Gogledd-ddwyrain Cymru

Mae Gyrfa Cymru’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd am yrfaoedd i bobl o bob oed mewn ysgolion a thrwy eu Siop Yrfaoedd yn Wrecsam.

Siop Yrfaoedd Wrecsam
Tŷ Egerton
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1EQ

01978 317015
enquiries@cwne.org

Canolfan Byd Gwaith

Yn o asiantaethau’r llywodraeth yw Canolfan Byd Gwaith sy’n cefnogi pobl oed gwaith. Mae’n rhoi cymorth a chyngor ar swyddi a hyfforddiant i bobl sy’n gallu gweithio a chymorth ariannol i’r rhai na all.

Canolfan Byd Gwaith
Tŷ Maelor
15–17 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BW

01978 316500

Sut i Ysgrifennu Braslun Gyrfa Gwych

Bydd cyflogwyr yn defnyddio eich braslun gyrfa (CV) i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer swydd wag. Mae’n gofnod o’ch cymwysterau a sgiliau ac, felly, cofiwch sicrhau ei fod yn ddiweddar pryd bynnag y byddwch yn gwneud cais am swydd newydd.

Bydd cyflogwyr yn dewis pwy maent eisiau eu galw i gyfweliad o’r wybodaeth sydd ar eich CV. Felly mae’n wirioneddol bwysig ei fod yn hawdd ei ddeall ac yn tynnu sylw at eich pwyntiau da.

Mae gwallau sillafu, gramadeg gwael a gwybodaeth ar goll ar CV yn edrych yn wirioneddol ddrwg ac, os yw’n anghyflawn, mae cyflogwyr yn debygol o’i daflu’n syth i’r bin.

Does dim ffordd gywir neu anghywir o drefnu CV, ond dylai gynnwys rhai adrannau safonol. Y rhain yw:

Dylai geirda fod gan bobl yr ydych wedi gweithio â hwy, er enghraifft rheolwr. Fel arfer, eich dau gyflogwr diwethaf ydynt ond, os nad ydych wedi gweithio o’r blaen, gallwch ddefnyddio athrawon neu diwtoriaid o’r ysgol neu goleg.

Pan fyddwch yn disgrifio eich diddordebau, tynnwch sylw at y pethau sy’n dangos y sgiliau y bydd cyflogwyr yn edrych amdanynt. Rhai pethau gwirioneddol dda i’w cynnwys yw:

Cadwch eich CV i uchafswm o ddwy ochr o bapur A4. Bydd cyflogwyr yn derbyn llawer o CV ac mae’n annhebygol y byddant yn darllen pob un o’r dechrau i’r diwedd. Mewn gwirionedd, bydd y rhan fwyaf yn gwneud dyfarniad ynghylch CV ar ôl ychydig o eiliadau, felly cadwch ef mor fyr ag y gallwch.

Yn olaf, byddwch yn onest. Os byddwch yn dweud celwydd ynghylch faint o brofiad neu’r sgiliau sydd gennych a’ch cyflogwr mae’n cael gwybod, gallech golli eich swydd.

Mae enghraifft o fraslun gyrfa yma i i chi greu un eich hun

Hawliau yn y Gweithle

Ydych chi’n meddwl am gael gwaith? Ydych chi’n gweithio eisoes? Os cewch eich cyflogi dan 18 oed, mae cyfyngiadau arbennig ar ba waith y cewch ei wneud, lle gallwch ei wneud ac am ba hyd bob wythnos.

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â ACAS

http://www.acas.org.uk/

Cyrraedd y Gweithle

Gall fod yn anodd teithio i’r gwaith ac yn ôl. Felly, mae’n bwysig edrych ar y cludiant yn eich ardal, er enghraifft trenau, bysiau a rhannu ceir.

Os ydych yn byw ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn 16 i 18 oed, bydd gennych hawl i gerdyn fydd yn caniatáu gostyngiad o ryw 25% i chi ar bron bob gwasanaeth bws lleol. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen o’r ddolen isod www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/bus/index.htm#young.

Gweithio Tra Byddwch yn yr Ysgol

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd 13 oed, gallwch wneud gwaith ysgafn yn unig. Mae hyn yn golygu na allwch wneud unrhyw waith sy’n gallu effeithio ar eich iechyd a diogelwch neu ymyrryd â’ch addysg.

Mae rhai rheolau ychwanegol ynghylch cyflogi plant dan 14. Os ydych dan 14, nid ydych yn cael gweithio o gwbl heblaw yn y mathau canlynol o waith:

Fodd bynnag, efallai y gall plant 13 neu hŷn wneud rhyw fathau eraill o waith, yn dibynnu ar is-ddeddfau’r awdurdod lleol yn eu hardal. I gael gwybodaeth am yr is-ddeddfau hyn, ffoniwch eich Gweithiwr Cymdeithasol Addysg lleol ar 01978 297523.

Er mwyn cael cyflogaeth ran-amser rhaid i chi fod yn 13 OED NEU HŶN
Os ydych yn 13 (ond dan 15) ni ddylai eich cyflogaeth fod dros y canlynol
Os ydych yn chwilio am gyflogaeth ac yn
15 OED a heb gyrraedd oedran gadael yr ysgol (16)

Bore

Uchafswm o 1 awr rhwng 7.00am a dechrau ysgol.

Noswaith

Uchafswm o 2 awr rhwng gorffen ysgol a 7.00pm (ni chewch weithio mwy nag 1 awr os ydych wedi gweithio yn y bore cyn mynd i’r ysgol)

Sadyrnau neu Wyliau Ysgol

Uchafswm o 5 awr y dydd

Dydd Sul

Uchafswm o 2 awr

Uchafswm mewn Wythnos

Yn ystod y tymor – 12 awr
Yn ystod y gwyliau – 25 awr

Amodau Eraill

Dim mwy na 4 awr heb gael seibiant

Bore

Uchafswm o 1 awr rhwng 7.00am a dechrau ysgol.

Noswaith

Uchafswm o 2 awr rhwng gorffen ysgol a 7.00pm (ni chewch weithio mwy nag 1 awr os ydych wedi gweithio yn y bore cyn mynd i’r ysgol)

Sadyrnau neu Wyliau Ysgol

Uchafswm o 5 awr y dydd

Dydd Sul

Uchafswm o 2 awr

Uchafswm mewn Wythnos

Yn ystod y tymor – 12 awr
Yn ystod y gwyliau – 25 awr

Amodau Eraill

Dim mwy na 4 awr heb gael seibiant

Os ydych eisiau gweithio rhaid i chi gael trwydded waith oddi wrth yr Awdurdod Lleol. Mae ffurflenni cais i’w cael gan y Swyddog Cyflogi Plant Ysgol yn ogystal â Thrwyddedau Perfformio. Mae hwn yn rhan o’r Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol Addysg yn y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, 16 Stryt yr Arglwydd, Wrecsam LL11 1LG. Neu lawrlwytho un oddi yma.

Mae’r cyfyngiadau hyn yn para nes byddwch yn cyrraedd 16 ac wedi gadael yr ysgol, pan fyddwch yn cael eich dosbarthu fel gweithiwr ifanc. Mae hyn yn golygu y bydd gennych fwy o ddewis o ran y swyddi y gallwch eu gwneud. Os ydych yn 18 oed neu hŷn, rydych yn cael yr un hawliau gwaith ag oedolion.

Gweithio Dramor

Gall gweithio dramor fod yn fenter newydd a chyffrous. Mae byw a gweithio mewn gwlad arall, gan fwynhau’r gwahanol ddiwylliant a phobl, yn gallu bod yn brofiad all newid bywyd.

Os yw hyn yn rhywbeth yr ydych wedi meddwl amdano, dyma ychydig o ddolenni i roi rhagor o wybodaeth i’ch helpu ar eich ffordd.

http://www.direct.gov.uk/en/BritonsLivingAbroad/EducationAndJobs/DG_4014676

http://www.gapwork.com/

http://www.jobseekersadvice.com/main/working_abroad.htm

Cysylltiadau Lleol

Dewisiadau Ieuenctid

Cefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer pobl ifanc. Un i un neu sesiynau grŵp. Allgymorth a gwasanaeth galw heibio.

Dewisiadau Ieuenctid
NACRO Wrecsam
35 Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8AH

01978 314313

Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig gwybodaeth ddiweddaraf ymarferol, ddibynadwy ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys budd-daliadau, tai, cyflogaeth, dyled, defnyddwyr a materion cyfreithiol. Ymwelwch â’r wefan neu ffoniwch i wneud trefniant mewn swyddfa leol.

9.30am – 2.00pm Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Gwener

Cyngor ar Bopeth
35 Ffordd Grosvenor
Wrecsam
LL11 1BT

01978 364639

Ymddiriedolaeth y Tywysog

Elusen yn y DU sy’n helpu pobl ifanc oresgyn rhwystrau a chael eu bywydau ar y trywydd iawn. Trwy gefnogaeth ymarferol sy’n cynnwys hyfforddi, mentora a chymorth ariannol, mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn helpu rhai 14–30 oed gyrraedd eu llawn allu a gweddnewid eu bywydau. Mae ei ymdrechion yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi ymgodymu yn yr ysgol, wedi bod mewn gofal, wedi bod mewn trafferthion gyda’r gyfraith, neu’r di-waith hirdymor.

Ymddiriedolaeth y Tywysog
Coleg Iâl
Ffordd Parc y Llwyni
Wrecsam
LL12 7AB

Llinell Fusnes

I gael gwybodaeth am bob agwedd ar sefydlu eich busnes eich hun yn ardal Wrecsam.

Llinell Fusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU

01978 292092

Cysylltiadau Cenedlaethol

ACAS

Nod ACAS yw gwella sefydliadau a bywyd gwaith trwy gysylltiadau cyflogaeth gwell. Maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor annibynnol, hyfforddiant o safon ac yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogedig i ddatrys problemau a gwella perfformiad.

ACAS
Tŷ Purbeck
Cilgant Lambourne
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GJ

029 2076 2636
Llinell Gymorth 08457 47 47 47

Cymorth Hyblyg i Fusnes

Y gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer busnesau yng Nghymru.

03000 6 03000

Shell Livewire

Gwybodaeth am ddechrau a rhedeg busnes. I gofrestru am ‘Cist Offer Dechrau Busnes’ am ddim cofrestrwch ar-lein yn: www.shell-livewire.org