dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru

Cymaint o lefydd a chymaint o ffyrdd o’u gweld – drwy’r Rhyngrwyd, mewn llyfrau, ar y teledu – ac wrth gwrs y ffordd orau, trwy deithio yno.

Mae Wrecsam yn lle gwych i gychwyn teithio ar y trên, ar y ffordd, yn yr awyr a thros y môr. I ymwelwyr mae’n borth i Gymru ac mae ein cyfradd ddiweithdra isel iawn yn golygu bod gennym gyfleoedd gwaith i bobl o dros y ffin ac o gwmpas y byd.

Mae’r dewisiadau teithio ac archwilio tu hwnt i bopeth y gallai neb fod wedi dychmygu ond ychydig o ddegawdau’n ôl. Gallwch fynd ar drip undydd i Gaerdydd, Llundain, Caeredin, Dulyn, Paris, Rhufain, Barcelona a dwsinau o gyrchfannau eraill. Neu efallai benwythnos hir yn Efrog Newydd - neu ddysgu sgïo ym Mwlgaria - neu gymryd blwyddyn i archwilio’r India a thu hwnt - gweithio eich ffordd o gwmpas y byd neu wirfoddoli i helpu cymunedau mewn gwahanol rannau o’r byd.

Closio at anifeiliaid na fyddech chi fyth wedi disgwyl eu gweld tu allan i sw, dringo’r mynyddoedd uchaf neu siopa siopa siopa yn ninasoedd mwyaf ffasiynol y byd. Nofio mewn dyfroedd cynnes a sglefrio ar draws rhewlifau.

Cynllunio eich taith yw hanner yr hwyl ac yma fe welwch y wybodaeth sydd arnoch ei hangen i gychwyn eich taith o ddarganfyddiad.

Cysylltiadau Lleol

INFO

Cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc ar bob math o faterion gan gynnwys y Byd, Ewrop, y DU a Chymru.

11.30am – 5.30pm, Llun, Mercher, Gwener
11.30am – 4.30pm, Mawrth, Iau

INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB

01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - Teithio a Chludiant

Rheilffordd Caer – Wrecsam – Amwythig

I gael gwybodaeth am deithio ar y trên o Wrecsam i Gaer neu Amwythig a thu hwnt.

Un Wrecsam

Peidiwch â gwrando ar beth sydd gan eich ffrindiau i’w ddweud, cael gwybod y gwir am y bobl sy’n dod o wledydd eraill i weithio yn Wrecsam.

Cysylltiadau Cenedlaethol

Clic Ar-lein

Gwefan wybodaeth genedlaethol pobl ifanc dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Eurodesk

Rhwydwaith yw Eurodesk o sefydliadau ar hyd a lled Ewrop sy’n rhoi gwybodaeth i bobl ifanc ar gyfleoedd gweithio, astudio, teithio a gwirfoddoli dramor, yn ogystal â chyllid Ewropeaidd.

Eurodesk
YouthLink Scotland
Rosebery House
9 Haymarket Terrace
Caeredin
EH12 5EZ

0131 313 2488
Ffacs: 0131 313 6800

eurodesk@youthlink.co.uk

European Youth Portal

Mae’r European Youth Portal ar gyfer unrhyw bobl ifanc sydd eisiau teithio, gweithio, astudio neu wirfoddoli yn Ewrop, cael gwybod am eu hawliau neu ddim ond eisiau cael gwybod mwy am Ewrop.