Canolfannau a Phrosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid
Canolfan Pobl Ifanc Llai
Newyddion
Llongyfarchiadau i ddau o bobl ifanc cymuned Llai: Thomas Matthias a Kayleigh Jones. Mae'r ddau unigolyn ifanc yn gwirfoddoli yn eu clwb ieuenctid lleol yn Llai ac yn cael eu hachredu gan Wirfoddolwyr y Mileniwm, Prifysgol Pobl Ifanc a Rhwydwaith y Coleg Agored am eu holl ymdrechion a’u gwaith caled. Maent wedi'u lleoli yng Nghanolfan Adnoddau Parc Llai.
Mae'r bobl ifanc wedi nodi ffactor gynyddol yn eu cymuned a'u gwlad; yn ogystal ag yfed a chyffuriau, mae Wrecsam yn y 10 uchaf ar y 'map tewdra'. Penderfynodd y bobl ifanc fynd i'r afael â'r materion hyn. Gwelsant fod llawer o chwaraeon fel pêl-droed a chriced yn digwydd yn Llai ond bod rhywbeth ar goll, sef dawns. Cysylltodd Kayleigh â dawnsiwr stryd lleol; Sarah's Dance Extreme. Daeth Sarah i gyfarfod y bobl ifanc a gwneud sesiwn dawnsio stryd am ddim. Mwynhaodd y bobl ifanc y noson gyda 12 yn cymryd rhan er na hysbysebwyd y noson o gwbl. Gwelwyd bod galw am ddarpariaeth fel hyn a lluniodd Kayleigh a Tom gais am arian i UnLtd Sports Relief.
Gofynnwyd am arian i neilltuo'r dawnsiwr stryd, gan obeithio y bydd y noson yn gymorth i fagu hyder, hunan-barch a sgiliau newydd. Gyda'u sgiliau newydd mae’r bobl ifanc am drefnu perfformiad ar gyfer y gymuned. Caiff ymdrechion y bobl ifanc eu gwobrwyo gyda thaith i Lundain i weld Billy Elliot, sy'n sioe gerdd wedi'i lleoli mewn pentref gwledig yn ystod streic yn y pwll glo. Roedd y bobl ifanc yn meddwl y byddai'r perfformiad yn ysbrydoli’r bobl ifanc ac os byddent yn mwynhau dawnsio y gallai eu breuddwydion gael eu gwireddu.
Yna cyfarfu Kayleigh a Thomas gydag Amanda Everson, Rheolwr Datblygu o UNLtd, i gyflwyno'u cais. Credai Amanda fod llawer o waith caled wedi mynd i mewn i'r cais ac aethpwyd ag ef i banel.
Ar 28ain Hydref 2008 cafodd Thomas alwad ffôn i ddweud eu bod yn llwyddiannus ac i'w llongyfarch ar y cais. Nid yw gwaith caled y bobl ifanc yn gorffen yn awr. Rhaid i Kayleigh a Tom fod yn rheolwyr y prosiect. Eu gwaith fydd gofalu am yr arian, talu costau, ysgrifennu adroddiadau, archebu tocynnau ac edrych ar Asesiadau Risg ac Iechyd a Diogelwch. Bydd y bobl ifanc yn gofalu am eu prosiect o'r dechrau i'r diwedd. Byddant hefyd yn gofyn am gymorth gan eu Gweithwyr Ieuenctid. Bydd y bobl ifanc yn dysgu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys cyllido, TG, cynllunio a llunio cynigion. Gellir cynnwys y profiad o reoli'r prosiect hwn drwyddo draw yn CVy bobl ifanc hyn.