Diddymu’r Ddawns!!
Ydech chi’n hoffi dawnsio? Eisiau arddangos eich sgiliau? Eisiau cystadlu? Dyma’r cyfle perffaith.
Lleoliad: Clwb RAFA, Ffordd Ruthun, Wrecsam.
Dyddiad: 04/07/10
Amser: 1y.p
Mae tri categori:
- Hip Hop (dawnsio stryd)
- Agored (unrhyw arddull dawns arall)
- Steil rhydd (Dawns unigol)
Gellid dewis cerddoriaeth eich hunain i’r ddau gategori cyntaf. Ond bydd cerddoriaeth y steil rhydd yn cael ei gyflwyno 10 munud cyn y gystadleuaeth yn unig. Mae gofyn i’r gerddoriaeth gael ei yrru ataf ddim hwyrach na’r 23/06/10 i Y Fic, Canolfan Ieuenctid Fictoria, 13 Hill street, Wrecsam. Ni dderbynnir cerddoriaeth hefo geiriau Saesneg.
Bydd tal i bob grŵp / unigolyn sydd yn cystadlu, i’w gadarnhau.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Nia Evans ar: 01978 356386 neu 07500607405.
Bydd elw’r digwyddiad yn cael ei roi tuag at Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.
