Canolfannau a Phrosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid
Prosiectau
- Nantyr
- Addysg Cyfoedion
- Prosiect Gwaith Ieuenctid Ysbytai Inspire
- Gwobr Dug Caeredin
- Gwaith Ieuenctid mewn Addysg
- Fforwm Pobl Ifanc
- Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais
- Gwasanaeth Cynghori Outside In
- Prifysgol Plant / Pobl Ifanc
- INFO
Gwobr Dug Caeredin
Y Wobr i bawb!
Eisiau gwneud rhywbeth mwy diddorol gyda’ch amser sbâr a gwneud ffrindiau newydd?
Ewch am sgwrs at un o Drefnyddion Gwobr Dug Caeredin Wrecsam.
Mae Canolfannau Gwobr Agored Dug Caeredin yn Wrecsam yng Nghanolfan Ieuenctid Gresffordd ar nos Lun a nos Fercher ac ym Mloc A, Ystafelloedd 10, 12 a 14 yng Ngholeg Iâl pob nos Fawrth. Yn y canolfannau hyn byddwch yn cael cyfle i gyfranogi mewn llawer o wahanol weithgareddau fel saethwriaeth, Cymorth Cyntaf, Therapi Harddu, Hyfforddiant Hirdeithiau, saethyddiaeth a gweithdai cyffuriau ac alcohol.
Gallwch alw heibio un o’r Canolfannau hyn i gael gwybod mwy neu gysylltu â Rose Hislop, y Swyddog Datblygu trwy e-bost rose@hislop.co.uk neu dros y ffôn ar 07808 787 774. Gallwch hefyd ymweld â’n gwefan www.dhislop.co.uk.
Beth yw Gwobr Dug Caeredin?
Mae’r Wobr yn rhaglen o weithgareddau a her ynddynt fydd yn helpu i chi ddysgu sgiliau newydd, helpu pobl eraill, cael profiad o antur a bydd yn rhoi ymdeimlad cryf o gyflawni i chi. Ar ben hynny, mae amryw o sefydliadau fel cyflogwyr a phrifysgolion yn edrych yn ffafriol ar y Wobr a’r hyn mae’n ei ddweud am yr un sydd wedi ei gyflawni. Dangosodd arolwg pwysig diweddar ei fod yn cael mwy o ddylanwad ar gyflogwyr nag unrhyw beth arall.
Beth mae’n ei olygu?
Mae tair lefel - Efydd, Aur ac Arian - ac, ar gyfer pob un, rydych yn cwblhau gweithgareddau mewn pedair adran - gwasanaeth, sgiliau, adloniant corfforol a hirdeithiau. Ar y lefel Aur byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn Prosiect Preswyl.
Chi sydd i benderfynu beth i’w wneud. Ymhob Adran mae amrywiaeth eang o ddewisiadau i ddewis ohonynt neu gallwch gael hyd i weithgareddau tebyg eraill sy’n eich diddori. Gallai hyn fod yn rhywbeth hollol newydd neu gallech barhau gweithgaredd a fwynhewch eisoes. Y newyddion da yw nad yw’n arholiad ac na allwch chi ddim methu! Mae’r Wobr â phopeth i wneud â rhoi cynnig arni - nid yw’n gystadleuaeth - dim ond tamaid o fenter a dyfalbarhad sydd ei angen.
Ar gyfer pwy mae’r Wobr?
Mae’r Wobr yn agored i bawb rhwng 14 a 25 oed. Nid oes angen cymwysterau arbennig, dim ond bod yn barod i roi cynnig arni.
Lle allaf i ei wneud?
- Yn eich clwb ieuenctid lleol neu fudiad ieuenctid gwirfoddol
- Yn eich ysgol, coleg neu brifysgol
- Trwy eich cyflogwr
â diddordeb ac eisiau cael gwybod mwy?
Ymwelwch â’r wefan www.dhislop.co.uk i gael gwybod mwy am Wobr Dug Caeredin.
Cysylltwch â Rose Hislop 07808 787774
rose@hislop.co.uk