Byddwch yn rhan o Wrecsam ifanc
Ar hyn o bryd rydym wrthi’n diweddaru gwefan Wrecsam Ifanc ac rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig i helpu. Helpodd pobl ifanc ni sefydlu’r wefan a dyma eich cyfle i ddweud eich barn.
Rydym yn edrych ar ffurfio grÿp golygyddol, fydd yn cyfarfod bob mis i weld bod y pynciau ar y wefan yn berthnasol i bobl ifanc.
Rhai o’r sylwadau a gawsom am y wefan yw:
‘Mae’n wefan wych am ei bod yn rhoi gwybodaeth o bob math a gallwch gael gwybod unrhyw beth am Wrecsam’.
‘Mae’n wefan dda iawn ond byddai’n well efo gemau’
‘Yn fy marn i mae’r wefan yn ddiflas. Mae eisiau mwy o liwiau a lluniau, a gallai wneud efo gemau. Rwy’n meddwl bod y golofn help / cyngor yn syniad da’
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn rhan o grÿp golygyddol gwefan Wrecsam Ifanc cofiwch lenwi’r ffurflen ymateb gyda’ch manylion a byddwn yn cysylltu â chi.
Diolch yn fawr