dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Digwyddiadau Arbennig

Os oes gennych unrhyw ddigwyddiadau arbennig yr hoffech i ni eu hysbysebu cysylltwch ag infoshop@wrexham.gov.uk neu ffoniwch (01978) 358900.

Blas am Oes (A4L)

Beth yw A4L?

Rydych chi wedi clywed am Jamie Oliver sydd wedi gwneud ei orau glas i wella prydau ysgol yn Lloegr – wel, chwarae teg, dylai pobl ifanc yng Nghymru gael yr un sylw!

Blas am Oes (A4L) yw ateb Llywodraeth Cynulliad Cymru (heb Jamie Oliver gwaetha’r modd!)

Mae’n gyfnod cyffrous i bobl ifanc yn Wrecsam. Mae A4L yn golygu y bydd pob ysgol a chantîn yn gorfod bodloni safonau arbennig yn ystod y blynyddoedd nesaf. Felly bydd llawer o bobl yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau y bydd eich cinio yn brofiad iach a phendant ichi!

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Mae A4L wedi bod yn gofyn i bobl ifanc o Wrecsam pa fwyd yr hoffent ei gael i ginio ac yn ystod amser ’paned er mwyn i’w profiad bwyta fod yn fater mwy dymunol. Yn wir, efallai mai chi oedd un o’r bobl lwcus y gwnaethant hwy eu holi. Gofynnwyd cwestiynau i lawer o bobl ifanc am yr hyn y maent yn ei fwynhau am amser cinio a beth, yn eu barn hwy, yr oedd yn rhaid ei wella a sut y gallai hynny gael ei wneud.

Beth ddywedoch chi am amser cinio?

Dywedoch chi hyn;

Ar ôl derbyn beth y gwnaethoch ei ddweud a’r syniadau a oedd gennych, mae peth wmbredd o newidiadau cyffrous ar fynd.

Bydd A4L yn dechrau ym mhob ysgol uwchradd o fis Medi ymlaen a dyna pryd y gwelwch chi’r newidiadau!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth byddwch cystal ag anfon e-bost at dîm A4L neu ffonio 01978 842275.

Os ydych chi’n poeni o gwbl neu os ydych am ddweud wrthym ba mor wych yw’r newidiadau, gallwch chi ddweud wrth eich cyngor ysgol hefyd!

Play WrexhamCynlluniau Chwarae Gwyliau

Cynlluniau chwarae mynediad agored am ddim.

Mae prosiectau chwarae mynediad agored yn cynnig y cyfle i blant gael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o gyfleoedd chwarae gan gynnwys gwneud cuddfan, defnyddio offer, chwarae yn y dŵr, modelu sothach, celf a chrefftau, gemau traddodiadol a chwaraeon. Mae annog eich plentyn i fanteisio ar un o’r prosiectau chwarae a restrir isod yn ffordd wych o gefnogi eich plentyn wrth chwarae, yn enwedig yn ystod gwyliau’r ysgol! Yn aml gall chwarae fod ychydig yn flêr felly argymhellwn eu bod yn gwisgo’n briodol!

Mae cynlluniau chwarae mynediad agored ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed oni nodir yn wahanol (gall y rheiny rhwng 5 a 7 oed ddod gydag oedolyn cyfrifol).

Gwybodaeth - Cynlluniau Chwarae Gwyliau