dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Canolfannau a Phrosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid

Prosiectau

Prosiect Gwaith Ieuenctid Ysbytai Inspire

Partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-ddwyrain Cymru.

Nod y prosiect yw rhoi cefnogaeth i bobl ifanc 11-18 oed sydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar ôl hunan-niweidio. Fe all cefnogaeth gael ei chynnig hefyd i bobl ifanc glwyfadwy a nodwyd gan y staff.

Fel arfer, bydd pobl ifanc yn cael eu cyfeirio gan y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) fydd, ar ôl asesu rhywun ifanc, yn teimlo ei bod yn briodol i’w cyfeirio at y Tîm Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty. Fel arall, fe all aelod o’r staff ar wardiau plant neu oedolion gysylltu â’r tîm i gyfeirio rhywun ifanc y maent yn ystyried sydd yn agored i niwed ac a fyddai’n elwa ar gymorth ychwanegol. Bydd y tîm yn cefnogi’r bobl ifanc hyn tra byddant yn Ysbyty Maelor ac am hyd at wyth wythnos ar ôl iddynt adael.

Prosiect Gwaith Ieuenctid Ysbytai Inspire
Canolfan Iechyd Plant
Blwch Post 2073
Ysbyty Maelor Wrecsam
Ffordd Croesnewydd
Wrecsam
LL13 7ZA

01978 726002