dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Canolfannau a Phrosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid

Prosiectau

Addysg Cyfoedion

Addysg Gyfoedion yw addysg i bobl ifanc gan bobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu ymdopi’n well â phroblemau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae addysg cyfoedion yn cael ei chyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys drama a chwarae rhan. Mae cefnogi cyfoedion yn wahanol gan fod hynny’n gefnogaeth un i un.

Pa faterion sy’n dod o fewn Addysg Cyfoedion?

Mae Addysg Cyfoedion yn cynnwys llawer o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Mae’r rhain yn cynnwys

Lle fydd Addysg Cyfoedion yn digwydd?

Mae prosiectau Addysg Cyfoedion yn digwydd yn holl ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth yn Wrecsam.

Yn Ysgol Uwchradd Darland mae gweithiwr llawn-amser tra bo gweithwyr ieuenctid llawn-amser mewn ysgolion eraill yn cefnogi’r prosiectau yn yr ysgolion hynny.

Mae datblygiadau arwyddocaol yn cynnwys Fforwm Ymarferwyr Addysg Cyfoedion Gogledd Cymru a chysylltiadau o ganlyniad â phobl ifanc ar hyd a lled y Gogledd.

Datblygu arall sydd ar y gweill yw prosiect rhagbrofol ar gyfer y fagloriaeth newydd. Mae addysg cyfoedion yn cael ei defnyddio fel arf i alluogi addysgwyr cyfoedion gael y sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer y fagloriaeth.

Sut mae dod yn addysgwr cyfoedion?

Gofynnwch i’ch gweithiwr ieuenctid yn yr ysgol. Mae mor hawdd â hynny.

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys rhaglen o ddysgu am gyffuriau yn cael ei ddilyn gan ddau ddiwrnod o hyfforddiant sy’n cynnwys sgiliau cyfathrebu, a sgiliau cynllunio a chloriannu.

Mae Ysgol Uwchradd Darland yn ddigon ffodus o gael cefnogaeth ariannol elusen leol, ‘The Alyn Family Doctors’, sy’n talu am raglen hyfforddi pythefnos ar gyfer addysgwyr cyfoedion yn yr ysgol. Ategwyd hyn gyda phenwythnos preswyl yn y Canolbarth a dalwyd amdano gan y Bwrdd Iechyd Lleol a Chronfa Gymunedol yr Heddlu.

Y Grŵp Craidd

Grŵp bach o bobl ifanc yw hwn sy’n cyfarfod bob wythnos i gynllunio, cyflwyno a chloriannu addysg cyfoedion i gynulleidfaoedd amrywiol gan gynnwys clybiau ieuenctid, ysgolion, colegau a chynadleddau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn addysgwr cyfoedion, cysylltwch â Craig ar (01978) 722071 neu e-bost craig.matthews@wrexham.gov.uk