dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Canolfannau a Phrosiectau'r Gwasanaeth Ieuenctid

Prosiectau

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam

Beth ydy o?

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda phobl ifanc sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol (o ran ei atal) yn ogystal â’r rheiny a allai fod wedi dod i gysylltiad eisoes â gweithgarwch o’r fath megis cael eu harestio, mynychu’r llys o bosibl a derbyn ‘Gorchymyn’.

Ble mae o?

Lleolir y gwasanaeth yn Uned 21 Ystad Ddiwydiannol Whitegate yn Wrecsam. Mae’n weddol hawdd ein cyrraedd ar fws ac rydym o fewn pellter cerdded i lawer o bobl ifanc yn y dref.

Pwy sy’n gweithio yno?

Gwasanaeth aml-asiantaeth ydym mi, sy’n golygu bod gennym gynrychiolwyr o asiantaethau eraill yn gweithio fel un tîm. Mae hyn yn helpu i ddarparu gwasanaeth gwych ar gyfer pobl ifanc.

Mae’r ystod o rolau yn y gwasanaeth yn cynnwys: gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr ieuenctid, heddwas, athro, swyddogion prawf, gweithwyr camddefnyddio sylweddau a chynghorydd iechyd meddwl. Rydym hefyd yn gysylltiedig ag ystod o asiantaethau a gwasanaethau eraill a all ein helpu i gefnogi unigolyn ifanc sy’n ymwneud â’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid megis Gyrfa Cymru, ysgolion, cymdeithasau tai a’r gwasanaeth ieuenctid.

Felly beth fydd yn digwydd os oes Gorchymyn Llys arnoch?

Os oes Gorchymyn Llys ar unigolyn ifanc, mae’n rhaid iddo gyfrannu at y broses asesu a dod i apwyntiadau i gyfarfod â staff amrywiol yn y gwasanaeth neu ein hasiantaethau partner. Gallai’r apwyntiadau hyn fod ar ffurf gwaith grŵp neu waith un-i-un gydag aelod o staff i ymdrin â’r materion a allai effeithio ar eu tebygolrwydd o aildroseddu.

Mae’r staff wrth law i roi cymorth i bobl ifanc ac i’w hatal rhag aros yn y System Cyfiawnder Ieuenctid ar ôl iddynt gwblhau eu Gorchymyn.

Felly nod pob apwyntiad yw rhoi help a chymorth i’r unigolyn ifanc ond mae hefyd yn cynnwys elfen o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Mae ystod eang o ymyriadau, ond mae’n cynnwys:

Yn aml mae’n galed iawn i bobl ifanc ddod i’w hapwyntiadau gan y byddai’n well ganddynt fynd allan gyda’u ffrindiau neu wneud rhywbeth arall. Fodd bynnag yn unol â’r gyfraith, mae angen iddynt ddod i apwyntiadau naill ai unwaith y pythefnos hyd at 25 awr bob wythnos gan ddibynnu ar eu Gorchymyn.

Felly pa wasanaethau atal sydd ar gael?

Mae nifer o brosiectau ar gael i atal pobl ifanc rhag mynd i drafferth ac o ddod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol yn y pen draw.

Yn Wrecsam rydym yn cynnal nifer o brosiectau sy’n gweithio gyda phobl ifanc unigol megis Rhaglen Cynnwys Ieuenctid (YIP) a gyflwynir drwy Fenter neu bartneriaeth Parc Caia ar ein rhan. Nod y prosiectau hyn yw annog pobl ifanc i gefnu ar droseddu drwy hybu addysg, ffyrdd newydd o dreulio eu hamser hamdden gan ddod yn ddinasyddion gweithgar.

Ffordd arall o wneud gwaith atal yw mewn cymunedau lleol neu’n ôl ardal ddaearyddol. Mae’r Tîm Ymyrraeth Gynnar yn gweithio mewn nifer o ardaloedd ar yr un pryd, gyda’r gymuned, pobl ifanc a sawl asiantaeth bartner arall i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a hybu cydlyniad yn y gymuned.

Gwneir hyn oll drwy ymagweddau arloesol ac mae’n galluogi pawb i allu trafod y materion a’r gweithgareddau a fyddai’n annog pobl ifanc i gefnu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a gwella eu cymuned. Fel partneriaeth mae’r Tîm Ymyrraeth Gynnar ac asiantaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i hwyluso digwyddiadau lle y gall aelodau o’r gymuned ddysgu ychydig mwy am ei gilydd. Yn aml mae hyn yn helpu aelodau eraill o’r gymuned i ddeall safbwyntiau pobl ifanc a sut maent yn teimlo am bethau ac mae hyn hefyd yn galluogi pobl ifanc i sylweddoli sut y gall eu hymddygiad, a allai ymddangos yn gwbl ddiniwed iddynt hwy, effeithio ar eraill mewn gwirionedd. Hefyd rhoddir llawer o amser i’r ardaloedd i ddathlu sut maent yn gweithio gyda’r bobl ifanc.

Mae’r tîm hefyd yn darparu ‘gwasanaeth ymateb cyflym’ os bydd angen ymyrryd ar fyr rybudd

Edrychwch am Wybodaeth am y Gystadleuaeth Dragons Den…. Mae’r Tîm Ymyrraeth Gynnar yn chwilio am syniadau gwych o ran sut yr hoffech ddelio â rhai o’r problemau y gellid eu gweld fel rhai gwrthgymdeithasol yn eich cymuned. Bydd yr ardal fuddugol yn ennill swm bach o arian i sicrhau bod hyn yn digwydd!

Felly beth a wneir i helpu dioddefwyr troseddau?

Anogir dioddefwyr unrhyw drosedd i gyfrannu at y gwasanaeth mewn sawl ffordd wahanol. Mae rhai Gorchmynion yn rhoi cymorth i’r dioddefwr ddod i gyfarfod arbennig gyda’r troseddwr ifanc a staff i ddisgrifio’r effaith y mae wedi’i gael ar eu bywydau, eu teulu, eu hofn personol ond hefyd i ofyn cwestiynau megis ‘Pam fi?’ i’r troseddwr. Gall dioddefwyr troseddau eraill ofyn i weithgareddau gwneud iawn penodol gael eu gwneud megis gwneud ac addurno potiau planhigion i’r ysbyty neu sicrhau y caiff y difrod y mae troseddwr wedi’i wneud ei atgyweirio.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Os ydych am wybod mwy am unrhyw ran o’r system cyfiawnder ieuenctid a gwybodaeth megis beth mae’r gwahanol Orchmynion Llys yn eu golygu, mae gwefan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn fan cychwyn da. Mae tair rhan ar ei wefan ac mae un o’r rhannau hyn yn rhoi gwybodaeth i holl aelodau’r cyhoedd gan gynnwys pobl ifanc.

A allaf gyfrannu at y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid mewn unrhyw ffordd arall?

Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr i weithio gyda ni mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio addysgwyr cyfoed sef pobl ifanc a gâi eu hyfforddi i gyflwyno gweithdai am faterion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol megis cynnau tân yn fwriadol neu graffiti. Mae addysg gyfoed yn ffordd wych i bobl ifanc ddysgu wrth iddynt gael eu ‘haddysgu’ gan bobl ifanc eraill a’i nod fyddai ysbrydoli pobl ifanc am oblygiadau’r hyn maent yn ei wneud, os byddant yn ymwneud â gweithgarwch troseddol.

Mae croeso i unrhyw un fod yn addysgwr cyfoed os ydynt wedi bod â Gorchymyn Llys eu hunain a’u bod yn awyddus i rannu eu profiadau ag eraill i’w hatal rhag gwneud yr un camgymeriadau.