parth gwybodaeth
newyddion a digwyddiadur
gwybod eich hawliau
cysylltwch â ni
cymorth / chyngor
amdanom ni
Ar Ba Oed Allaf I...
12 oed
- Gwylio / Llogi / Prynu ffilmiau a dvd/fideo Cert 12
- Gallwch fynd i unrhyw fan mewn tafarn ond i chi fod dan oruchwyliaeth oedolyn, ond ni allwch yfed unrhyw alcohol. Fodd bynnag, mae amodau trwyddedu’n golygu na chewch fynd i mewn iddynt, fel tafarnau sydd wedi cael problemau gydag yfed dan oed.
13 oed
- Os yw’r awdurdod lleol yn ‘gofalu amdanoch’ fe allwch gael eich rhoi mewn uned gadarn o gartref gofal am hyd at 72 awr os oes gennych hanes o redeg i ffwrdd, neu’n gallu anafu eich hun neu bobl eraill.
14 oed
- Gallwch wneud gwaith ysgafn rhan-amser, ond mae cyfyngiadau. Ni chewch weithio mwy na dwyawr ar ddiwrnod ysgol nac ar ddydd Sul. Ni chewch weithio yn ystod oriau ysgol, na gweithio cyn 7am neu ar ôl 7pm. Yn ystod y gwyliau ysgol ni chewch weithio mwy na phum awr y dydd na mwy na 25 awr yr wythnos.
15 oed
- Gwylio / llogi / prynu ffilmiau a dvd/fideo Cert 15
16 oed
- Gadael yr ysgol a gweithio llawn-amser.
- Rydych yn dal i fod â hawl i dderbyn addysg lawn-amser.
- Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod tai i’ch cartrefu os ydych yn ddigartref, yn gymwys i gael cymorth, mewn angen dybryd ac na wnaethoch eich hun yn ddigartref o fwriad.
- Gadael cartref
- Oedran cydsynio – Gallwch gydsynio â rhyw heterorywiol a hoyw.
- Gallwch briodi gyda chaniatâd rhieni.
- Newid eich enw trwy weithred newid enw
- Prynu tocyn loteri / betio ar y pyllau pêl-droed
- Gyrru moped hyd at 50cc
- Dewis eich meddyg eich hun a chydsynio â thriniaeth feddygol eich hun
- Byddwch yn derbyn rhif yswiriant gwladol
- Gallwch dderbyn cymhorthdal incwm, yn dibynnu ar amgylchiadau.
- Gallwch yfed cwrw, gwin neu seidr gyda phryd os yw’n cael ei brynu gan oedolyn ac os ydych yng nghwmni oedolyn. Nid yw hyn yn cynnwys gwirodydd (fodca, chwisgi ac ati) - mae hyn yn dal yn anghyfreithlon.
- Os ydych yn derbyn Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uchaf mae eich trwydded yrru dros dro’n dod i rym ar eich pen-blwydd yn 16. Gallwch wneud cais am hon o fewn tri mis i’r dyddiad hwnnw.
17 oed
- Gallwch yrru car neu gerbyd nwyddau bach
- Gallwch roi gwaed
- Gallwch ymuno â’r Llynges Frenhinol / Môr-filwyr / RAF neu’r Fyddin gyda chaniatâd rhieni.
- Gallwch hefyd ymuno â Byddin y Tiriogaethwyr gyda chaniatâd rhieni
- Gallwch gael trwydded peilot preifat
- Gall yr heddlu eich holi heb fod oedolyn priodol yn bresennol.
- Mae modd eich anfon i ganolfan gadw neu garchar
- Gallwch wneud cais am dystysgrif gwn.
18 oed
- Rydych yn oedolyn erbyn hyn!!!
- Gallwch bleidleisio
- Gallwch wasanaethu ar reithgor
- Gallwch osod bet
- Gallwch wneud ewyllys
- Gallwch brynu alcohol a sigaréts
- Dal cerdyn rhoddwr
- Gallwch wneud cais am basbort heb ganiatâd rhieni
- Os cawsoch eich mabwysiadu cewch weld eich tystysgrif genedigaeth.
- Gallwch reidio beic modur dros 125cc gyda thrwydded.
- Gallwch brynu tân gwyllt
- Gallwch adael cartref heb ganiatâd
- Gallwch gymryd rhan mewn perfformiad hypnoteiddio!
- Gallwch gael tatŵ
- Gallwch ddod yn aelod o’r Senedd
21 oed
- Gallwch fabwysiadu plentyn
- Gallwch oruchwylio dysgwr gyrru os ydych wedi dal trwydded am dair blynedd