BYC
Ein gweledigaeth
Bydd holl bobl ifanc ar hyd a lled y DU yn cael dweud eu dweud ac yn cael eu clywed.
Ein cenhadaeth
Pobl ifanc sy’n arwain Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC), ar ran pobl ifanc, 25 oed ac iau, ar hyd a lled y DU. Byddwn yn cysylltu â’n cymuned o aelod-sefydliadau a’n rhwydwaith o Gynghorau Ieuenctid Lleol, i roi cyfle i bawb ohonom, o ble bynnag y deuwn, gael llais a chael ein clywed. Mae ein hagwedd newydd at hyfforddiant a gwirfoddoli a’n hymgyrchoedd bywiog – yn lleol ac yn fyd-eang – yn ysbrydoli pobl ifanc i gael effaith gadarnhaol a gwneud i’w lleisiau gyfrif.
Yr hyn a safwn drosto
Sefydliad o bobl ifanc yw BYC ar gyfer pobl ifanc ar hyd a lled y DU. Rydym yn rhoi grym i bobl ifanc eraill fod yn rhan o’r pethau sy’n bwysig i ni a chael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar ein bywydau. Credwn nad yw o bwys pwy ydym nac o ble y deuwn a bod ein lleisiau’n cyfrif.
Ein Senedd, Ein Gweledigaeth
Wrth ddynesu at Etholiad Cyffredinol 2010, mae Cyngor Ieuenctid Prydain (BYC) yn ymgyrchu dros gael holl ymgeiswyr seneddol i gefnogi ac ymateb i flaenoriaethau ein maniffesto ac ateb ein galwad i’r gad pan gânt eu hethol.
Crëwyd ein Maniffesto gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.
Mae’n amlinellu pum cam y mae’n rhaid i’r Senedd gymryd i wella bywydau pobl ifanc yn y DU.
- 16: Oed newydd Democratiaeth – Rydym eisiau i’n Senedd ostwng yr oed pleidleisio ar gyfer etholiadau seneddol ac etholiadau cyhoeddus eraill i 16 oed.
- Rhoi Pen ar Dlodi Plant – Rydym eisiau i’n Senedd gadw’r addewid i roi pen ar dlodi plant yn y DU erbyn 2020.
- Mae Ein Meddyliau o Bwys – Rydym eisiau i’n Senedd fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl cynhwysfawr ar gyfer pobl ifanc.
- Cyflog cyfartal am waith cyfartal – Rydym eisiau i’n Senedd greu Isafswm Cyflog Cenedlaethol cyfartal i bawb 16 oed a hŷn.
- Teithio fforddiadwy – Rydym eisiau i’n Senedd gefnogi cerdyn Cludiant Ieuenctid Cenedlaethol sy’n cynnig gostyngiad o draean ar bris tocynnau cludiant cyhoeddus i rai 16 25 oed.
Hefyd, ymwelwch â’n gwefan www.byc.org.uk.