dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

Ymestyn Hawliau

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru eisiau i holl bobl ifanc 11-25 oed yng Nghymru gael yr un iawnderau neu hawliau, (pethau a gewch / ddylai gael / fod â hawl iddynt).

Efo hawliau daw cyfrifoldebau – ar oedolion ac arnoch chi fel rhywun ifanc. Y pethau mae’r Cynulliad yn meddwl y dylai fod gennych hawl iddynt yw cyfleoedd a dewis;

Dyma yw eich 10 hawl:

1. Eich Hawliau

a. Dysgu beth yw hawliau a’u deall.

Wyddoch chi beth yw eich hawliau? Mae llawer o lefydd lle gallwch gael gwybodaeth am eich hawliau, rhai ohonynt yn cael eu rhestru isod. Fel arall gallwch holi gweithiwr ieuenctid yn eich ardal neu gysylltu ag INFO ar (01978) 358900.

b. Sicrhau eich bod yn gallu eu hawlio ac yn deall a derbyn y cyfrifoldebau sy’n dod trwy hynny.

Unwaith y byddwch wedi cael gwybod beth yw eich hawliau efallai nad ydych yn eu deall yn llwyr. Mae digonedd o bobl all helpu i chi wneud synnwyr ohonynt fel gweithwyr ieuenctid, athrawon a gweithwyr gwybodaeth. Pam nad ofynnwch yn eich canolfan ieuenctid lleol ynghylch gwneud prosiect i’ch helpu chi a’ch ffrindiau wneud synnwyr o’ch hawliau?

2. Cael Eich Clywed

Mae gennych hawl i gael cyfle i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, a chynllunio ac adolygu camau allai effeithio arnoch. Cael llais, cael dewis hyd yn oed os na fyddwch yn gwneud y penderfyniad eich hun. Eich llais, eich dewis. Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc gymryd rhan mewn penderfynu ac yng Nghymru mae ymrwymiad gwirioneddol i sicrhau fod pobl ifanc yn cael dweud eu dweud. Mae llaweroedd o ffyrdd o fod yn rhan o benderfynu ac nid yw’n gorfod codi braw chwaith! Cysylltwch â’ch fforwm ieuenctid lleol – manylion isod – neu ymuno â chyngor eich ysgol. Os na ddywedwch chi ddim, ni fydd dim yn newid.

3. Teimlo’n Dda

Teimlo’n hyderus a theimlo’n dda amdanoch eich hun. Mae pob math o bethau’n gwneud i chi deimlo’n dda amdanoch eich hun. Mae’n ymwneud llawer â’ch hunan-barch a hyder. Mae pethau eraill hefyd sy’n gallu helpu i chi deimlo’n dda fel bwyta’n iach ac ymarfer digon. Ffordd arall o deimlo’n dda amdanoch eich hun yw gallu cyd-dynnu’n dda efo pobl eraill!

4. Addysg a Chyflogaeth

a. Gallu dysgu am bethau sy’n eich diddori ac sy’n effeithio arnoch.

Cael yr Addysg iawn yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud ac yng Nghymru mae cyfle gwych i ddysgu ar unrhyw bryd! Nid yw o bwys a oeddech yn dda neu beidio yn yr ysgol, gallwch bob amser ddysgu rhywbeth a fwynhewch a chyfrannu at eich dyfodol. Mae digonedd o lefydd sy’n cynnig cyfleoedd dysgu ffurfiol, anffurfiol a heb fod yn ffurfiol gan gynnwys e-ddysgu a chyrsiau dysgu o bell. Felly ewch ati a’i wneud!

b. Mwynhau’r gwaith a wnewch.

Mae gwaith yn mynd â llawer o’ch amser; felly mae’n wirioneddol bwysig eich bod yn hoffi’r gwaith. Mae llawer o ffyrdd o gael hyd i’r swydd iawn i chi. Gallwch sicrhau fod gennych y sgiliau a’r agwedd iawn y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a bydd yn helpu i chi ddod ymlaen. Mae ffyrdd o gyflwyno eich hun yn eich braslun gyrfa, sut olwg sydd arnoch a sut fyddwch yn cyfathrebu gyda phobl eraill. Cofiwch fod yr un sy’n mynd i’ch cyflogi gymaint o angen rhywun fel chi ag yr ydych chi angen y cyflogwr. Felly cofiwch weld eich bod yn deall eich gilydd a dangos y gallwch ragori yn eich gwaith ond i chi gael y gefnogaeth iawn.

c. Ymwneud â’r gweithgareddau a fwynhewch gan gynnwys hamdden, chwaraeon, celfyddydau, hobïau a gweithgareddau diwylliannol.

Gall gweithgareddau addysgiadol fod yn ddiddorol, pleserus ac ymlaciol iawn a gallant ymestyn tu hwnt i unrhyw beth ffurfiol. Mae gennych hawl i gyfranogi mewn gweithgareddau o’r fath ac mae digonedd o gyfle’n cael ei ddarparu gan y gwasanaeth ieuenctid a chyrff a mudiadau gwirfoddol. Gwelwch y penawdau ar y wefan i gael manylion.

5. Cymryd Rhan / Ymwneud

Ymwneud â gwirfoddoli a bod yn weithgar yn eich cymuned.

Mae llond gwlad o ffyrdd y gall pobl ifanc wirfoddoli a chyfranogi mewn gweithgareddau cymunedol gan ennill sgiliau, gwneud ffrindiau a mwynhau’r profiad. Mae digonedd o sefydliadau all eich helpu.

I gael rhagor o wybodaeth neu ofyn am ‘Canllaw Pobl Ifanc i Wirfoddoli’ cysylltwch â Chanolfan Gwirfoddolwyr Wrecsam:

AVOW
21 Stryt Egerton
Wrecsam
LL11 1ND

01978 312556 neu e-bost vb@avow.org

6. Bod yn Unigolyn

a. Cael eich trin gyda pharch ac fel rhywun cydradd gan bawb

b. Cael eich cydnabod am yr hyn sydd gennych i’w gyfrannu ac am eich llwyddiannau

c. Dathlu’r hyn a gyflawnwch

Mae’n wirioneddol bwysig bod yn chi eich hun, i wybod beth ydych, beth a gredwch ynddo a’r hyn sy’n gwneud i chi fynd. Pam na wnewch chi roi ffeil / llyfr lloffion at ei gilydd – math o bortffolio – gyda ffotograffau a disgrifiad o’r holl bethau y byddwch yn cymryd rhan ynddynt. Byddwch yn synnu faint ydych yn ei wneud! Cymrwch funud i ymfalchïo yn eich llwyddiannau.

7. Ar Gael yn Rhwydd

Ar gael yn rhwydd yw gwybod fod y gwasanaethau gorau, yn lleol a chenedlaethol, a bod rhywun ar gael i helpu i chi gael hyd iddynt. Nod y wefan hon yw dweud wrthych am wasanaethau yn ardal Wrecsam ac ar hyd a lled y wlad. Dweud wrthych beth sy’n digwydd, pryd, pam a sut! Rydym eisiau i chi gyrraedd eich llawn allu!

8. Iechyd a Ffyniant

Byw bywyd iach, yn gorfforol ac yn emosiynol. I fod yn hapus mewn bywyd mae’n helpu os ydych yn iach ac mae llond gwlad o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich iechyd, o fwyta bwyd iach cytbwys ac ymarfer digon, trwodd i ymlacio a chymryd rhywfaint o amser i hamddena pan fyddwch yn teimlo dan bwysau!

9. Hawl i wybodaeth ac arweiniad

Gallu cael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar bob math o faterion sy’n effeithio ar eich bywyd, pan fyddwch angen hynny. Mewn cymdeithas fwyfwy cymhleth mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn gallu cael gwybodaeth o safon a chefnogaeth briodol i ddelio â gwybodaeth o’r fath.

MAE GWELL GWYBODAETH YN ARWAIN AT WELL DEWISIADAU BYWYD

10. Diogelwch a Sicrwydd

Byw mewn cymuned a chartref diogel, sicr. Mae’n bwysig cael lle diogel i fyw, cartref sy’n teimlo’n ddiogel a chymuned sydd yr un fath. Mewn rhannau eraill o’r byd nid dyma fel y mae - yng Nghymru dyna’ch hawl fel rhywun ifanc. Mae llaweroedd o ffyrdd y gallwn i gyd helpu gwneud ein hamgylcheddau yn fwy diogel a sicrach. Gallwn ddysgu cyd-fyw efo’n teuluoedd, ffrindiau, cymdogion a hyd yn oed ein gelynion! Wrth gwrs gallwn gadw at ein safbwyntiau ein hunain ond cofiwch barchu’r ffaith bod gan bobl eraill hawl i’w barn hwy hyd yn oed os nad ydym yn cytuno â nhw. Gallwn helpu sicrhau bod pawb yn ufudd i’r gyfraith trwy ddweud am droseddau pan welwn hwy’n digwydd. Gallwn helpu gweithgareddau cymunedol lleol ac ymfalchïo yn y fan lle’r ydym yn byw.

Gallwch gael gwybodaeth am eich hawliau oddi wrth:

INFO
2 Arcêd y Gogledd
Stryd Caer
Wrecsam
LL13 8BB
(Mynedfa i Farchnad y Bobl)

01978 358900
infoshop@wrexham.gov.uk