Cynghorau Ysgol
Rhaid i bob ysgol yng Nghymru fod â chyngor ysgol.
Ffurfiwyd Fforwm Cynghorau Ysgolion Uwchradd Wrecsam o ddau o bobl ifanc o Gyngor pob ysgol uwchradd a etholwyd gan eu grŵp cyfoedion.
Bydd y grŵp yn cyfarfod rhyw ddwywaith y tymor ac mae’n ymwneud â nifer o weithgareddau sy’n anelu at wneud cynghorau ysgolion yn fwy effeithiol. Yn ddiweddar bu’r fforwm yn trefnu ymweliadau rhwng cynghorau ysgolion ar hyd a lled y sir i rannu profiadau a syniadau. Mae’r grŵp hefyd yn gobeithio ymwneud mwy â llunio penderfyniadau sy’n gysylltiedig ag ysgolion yn y sir.
Y Prif Swyddog dros Ddysgu a Chyflawniad wedi cytûn i ymweld â’r grŵp yn rheolaidd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael clywed am unrhyw newidiadau ac, wrth gwrs, i ymgynghori â hwy ynghylch cynlluniau at y dyfodol o ran ysgolion. Bydd y grŵp hwn, fel cymaint o rai eraill, yn cael cyfle i ethol pobl ifanc i’r Senedd Pobl Ifanc arfaethedig.
Pam fod â Fforwm Cynghorau Ysgolion?
Sefydlwyd y grŵp hwn oherwydd bod pobl ifanc eisiau i’r gwahanol gynghorau ysgolion weithio’n agosach gyda’i gilydd. Bydd hefyd yn cynnal etholiadau ar gyfer Cynrychiolwyr Cynghorau Ysgol y Ddraig Ffynci. Erbyn hyn mae’r cynrychiolydd hwn yn cael ei ethol o’r fforwm ac mae’n cyfnewid gwybodaeth gyda’r Ddraig Ffynci. Rhaid i bob ysgol yng Nghymru fod â chyngor ysgol ac mae’r grŵp hwn yn chwarae rhan bwysig wrth helpu ysgolion eu datblygu.
Beth sy’n Digwydd Nesaf?
Yn y dyfodol bydd y fforwm yn dal i gyfarfod y Prif Swyddog i drafod materion ysgolion a rhoi gwybodaeth iddo. Bydd y fforwm hefyd yn ymwneud â chynnal sesiynau a hyfforddiant ar gyfer athrawon a phobl ifanc ar ddatblygu cynghorau ysgolion.
Pwy?
Os ydych eisiau cysylltu â chyngor yr ysgol ffoniwch Jen Tredinnick ar 01978 722072.