Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP)
Mae'r CCUHP yn gytundeb rhyngwladol sy'n diogelu hawliau dynol plant o dan 18 oed. Cafodd ei gadarnhau gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym 1989.
Ar 16 Rhagfyr 1991, cytunodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn cael yr holl hawliau fel y rhestrwyd nhw yn y Confensiwn.
Yn 2004 mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r CCUHP yn ffurfiol fel sail i'w holl bolisïau ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae Erthygl 42 o'r Confensiwn yn datgan y dylai'r Llywodraeth wneud y Confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn. Yn unol â'r erthygl hon, un o amcanion allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw cynyddu ymwybyddiaeth o'r CCUHP.
I dysgu mwy ewch i'r wefan Gwneud pethau'n iawn.
I lawrlwytho PDF, cliciwch yma