dewis eich steil
English
Wrrecsam Ifanc

The Big P

Beth am ddod o hyd i gyfleoedd newydd i gymryd rhan er mwyn ichi gael dweud eich dweud am y materion a’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam

Grŵp o bobl ifanc 11-25 oed sy’n dod at ei gilydd i drafod materion sy’n effeithio ar bobl ifanc yw Fforwm Ieuenctid Sirol Wrecsam. Mae’r fforwm ieuenctid yn annog pobl i fod yn ymwybodol o’r UNCRC (Cytuniad y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn).

Dros y blynyddoedd, mae fforwm Ieuenctid Wrecsam wedi llwyddo i gwblhau amrywiaeth aruthrol o waith, sy’n cynnwys ymgynghoriadau â’r cyngor, cynnal cyfweliadau, a sôn am bynciau llosg yn Wrecsam. Fel grŵp maent wedi taro ar syniad, sef cael ‘Senedd’ pobl ifanc, er mwyn iddi fod yn gyfrwng i bobl ifanc gael dweud eu dweud, ac i bobl wrando ar eu sylwadau barn.

Mae hwn yn gam mawr ym maes cyfranogiad yn Wrecsam ac o ganlyniad i’r gwaith caled a wnaed ar y prosiect hwn ar y cyd ag AVOW (Cymdeithas y Sefydliadau Gwirfoddol) mae popeth yn dechrau ymffurfio o’r diwedd.

Enw’r fforwm fydd Senedd Yr Ifanc, a bydd yn rhan o batrwm cymryd rhan “The Big P” ar gyfer Wrecsam a gallwch gymryd rhan ynddi mewn sawl ffordd.

Rydym yn dymuno i’r grŵp hwn gynnwys oddeutu 51 o bobl ifanc a fydd yn cynrychioli pobl ifanc o bob ardal a grŵp yn Wrecsam, er mwyn iddynt gymryd rhan mewn pethau yn eu cymuned, a chael dweud eu dweud er mwyn i bobl wrando arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod Wrecsam yn bodloni Erthygl 12 yr UNCRC (Cytuniad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn).

Pobl ifanc fydd yn penderfynu beth yw pynciau’r cyfarfodydd a gall y rhain ymwneud ag unrhyw beth dan haul sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam. Er enghraifft, fe allent gynnwys cludiant, ysgolion neu’r amgylchedd.

Gallwch gymryd rhan fel hyn:

Ac os hoffech mae lleoedd ar gael ichi fod yn aelod annibynnol o unrhyw grŵp.

Byddai Senedd Yr Ifanc yn gofyn ichi wneud y canlynol!

Am fwy o fanylion cysylltwch Jen Tredinnick ar 01978 722072. E-bost: participation@wrexham.gov.uk

“Y C Fawr” (cyfranogi) yn rhoi lle amlwg Senedd yr Ifanc

Yn dilyn nifer o flynyddoedd o gynllunio, ymchwilio a pharatoi, a chwblhau’r pecyn hyfforddiant a DVD, erbyn hyn mae hyrwyddo’r C Fawr i bobl ifanc, staff a’r cyhoedd ar ei anterth. Mae gan y Fforwm Ieuenctid amserlen brysur o ymweld â grwpiau a chyflwyno sesiynau hyfforddi. Hyd yma, mae pobl ifanc wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae diddordeb yn tyfu.

Mae’r grŵp wedi trefnu sesiynau hyfforddiant ac ymweliadau hyrwyddol tan ddydd Gwener 11eg Mehefin. Yn dilyn hyn, bydd gan grwpiau a phrosiectau tan 25ain Mehefin i drefnu etholiadau a dweud wrth y tîm Cyfranogi am aelodau llwyddiannus y Senedd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos yn dechrau ar ddydd Llun 5ed Gorffennaf. Bydd cyfarfod cyntaf y Senedd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 1af Medi yn Neuadd y Dref gyda lansio swyddogol yn ystod Wythnos Ddemocratiaeth ym mis Hydref.

Bydd cyfarfodydd dilynol yn 2011 ar y diwrnodau hyfforddi ysgolion canlynol: 4ydd Ionawr 2011; 15fed Ebrill 2011; 24ain Mehefin 2011.

Gennych chi mae angen:

Cefnogi’r fforwm ieuenctid i dynnu sylw at y cyfranogi Mawr a rhoi lle amlwg i Senedd yr Ifanc yn eich ardaloedd a phrosiectau.

Erthygl 12 o UNCRC sy’n sail i’r C Fawr ac mae’n datgan “Bod gan bob plentyn hawl i fynegi eu barn ar bob mater sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei chymryd o ddifrif.” A bod y prosiect wedi cael ei sefydlu ar y gosodiad bod y cyfranogi mwyaf effeithiol yn golygu gwneud penderfyniadau ar y cyd rhwng pobl ifanc ac oedolion.

Felly, rydym yn gofyn bod aelodau Cysylltu’n ystyried sut allai’r Senedd ddod yn rhan o’r prosesau penderfynu ac ymgynghori.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: participation@wrexham.gov.uk neu ffonio Jen Tredinnick ar 01978 722 072 neu Nia Lloyd yn AVOW ar 01978 318810.